Penodwyd Lleucu Siencyn yn Gyfarwyddwr Datblygu'r Celfyddydau yn y Cyngor. Ar hyn o bryd hi yw Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol i ddatblygu llenyddiaeth.

Mae'n olynu Siân Tomos, a ymddiswyddodd o’r Cyngor ym Medi 2021.

Meddai Phil George, Cadeirydd y Cyngor:

"Rydym yn falch o benodi Lleucu i'r swydd allweddol hon gydag Uwch Dîm Arwain y Cyngor. Mae’n angerddol am holl amrywiaeth y celfyddydau. Mae hefyd am ehangu ein hymgysylltiad â chymunedau ledled Cymru gan gynnwys datblygu gweithgarwch Cymraeg. Bydd yn parhau â gwaith rhagorol Siân a adeiladodd sawl partneriaeth gan eiriol yn gryf dros y celfyddydau”.

Dywedodd Lleucu Siencyn:

"Cred y Cyngor fod y celfyddydau er budd pawb a dwi’n cytuno gant y cant. Mae ei waith a'i egwyddorion yn bwysig, yn enwedig ym maes y celfyddydau ac iechyd, argyfwng yr hinsawdd, ehangu ymgysylltiad, datblygu strategaeth Gymraeg newydd a'i ffocws rhyngwladol. Edrychaf ymlaen at ddatblygu'r egwyddorion ar gyfer pobl a chymunedau Cymru a chynorthwyo’r Cyngor i gyflawni ei genhadaeth o roi’r celfyddydau wrth wraidd ein bywyd a’n lles."
 

Magwyd Lleucu yn Nhalgarreg, Ceredigion ac aeth i Ysgol Dyffryn Teifi. Astudiodd Saesneg yn y Coleg Newydd, Rhydychen a threuliodd gyfnodau byr yn Ne America. Bu’n gweithio i gwmnïau teledu annibynnol a bu'n Swyddog Llenyddiaeth gyda Chyngor y Celfyddydau. Wedyn aeth yn Ddirprwy Brif Weithredwr Academi cyn mynd yn Brif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru a ariannwn i ddatblygu llenyddiaeth.
 

Diwedd                                                                                              Iau 3 Chwefror 2022                                                  

Nodiadau i’r golygydd:

  • Ni fydd Lleucu ar gael i'w chyfweld ar hyn o bryd, ond bydd yn ystyried ceisiadau wrth ddechrau yn ei swydd ym mis Mai

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa'r Wasg Cyngor Celfyddydau Cymru: 029 2044 1344/1307