Adran: Cyllid ac Adnoddau
Dyddiad cau: 9am, dydd Iau 16 Ionawr
Cyfweliadau: Dydd Mercher 22 Ionawr
Cyflog: £34,000 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol (yn amodol ar gyfnod prawf o 3 mis)
Oriau: 40 awr yr wythnos, oriau ychwanegol i'w cymryd fel amser o'r gwaith (TOIL). Mae rhywfaint o waith ar y penwythnosau a gyda’r nos yn angenrheidiol.
Lleoliad: Bydd yr ymgeiswyr wedi’u lleoli yn y swyddfa yn Chapter, Caerdydd. Rydyn ni’n cynnig model hybrid sy’n golygu y gallwch weithio gartref hefyd pan fo’n bosib.
Diben y swydd
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynllunio strategol, gweithrediadau dydd i ddydd, darparu gwasanaethau newydd a phresennol, a chynllunio capasiti i sicrhau bod ein seilwaith TG yn bodloni anghenion y sefydliad yn y presennol a’r dyfodol.
Mae’n rhaid iddynt sicrhau bod systemau a seilwaith TG yn bodloni’r gofynion gweithredol ac yn gwella ymgysylltiad y gynulleidfa, hygyrchedd a chynhwysiant i’r holl ddefnyddwyr, gan gynnwys pobl â diffyg hyder digidol. Mae hyn yn cynnwys y rhyngrwyd, telathrebu, y tiliau, y fewnrwyd, arddangosiadau digidol, seilwaith TG a’r holl rwydweithiau cyfrifiadurol a gwybodaeth.
Y Pennaeth TG yw’r rhyngwyneb rhwng cymorth arbenigol ar gyfer y systemau hyn, gan gynnwys darpariaeth sylfaenol a thu allan i oriau, a’n hadran TG ein hunain.
Ein hymgeisydd delfrydol
Byddwch yn unigolyn trefnus, uchelgeisiol, sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau, gyda phrofiad amlwg o weithio mewn swydd debyg. Byddwch yn hyblyg ac yn gallu gweithio i derfynau amser tynn â chyllideb dynn, yn amyneddgar ac yn gallu canolbwyntio a chefnogi anghenion a gallu TG amrywiol pawb yn y sefydliad. Byddwch hefyd yn fedrus wrth wneud cefnogaeth a hyfforddiant yn ddiddorol ac yn ddealladwy i bawb.
Byddwch yn canolbwyntio ar fanylion, ac fel rhan o’r Uwch Dîm Rheoli, byddwch hefyd yn cyfrannu’n rhagweithiol at waith cynllunio a gweledigaeth strategol hirdymor y sefydliad.
Mae’n rhaid i chi fod yn ymrwymedig i sicrhau bod ein rhyngwyneb TG yn addas i ddefnyddwyr, ac yn hyrwyddo’r arferion gorau o ran cynhwysiant a thegwch.