Mae Conservatoire Cenedlaethol Cymru yn chwilio am gerddor deinamig a phrofiadol i roi arweiniad ym maes Astudiaethau Lleisiol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu rheoli a datblygu amgylchedd hyfforddi cynaliadwy a llwyddiannus sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu celfyddyd fel cantorion, cydweithredwyr cerddorol ac, yn eu tro, cyfranwyr arwyddocaol at gymdeithas. Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth fanwl am y llais, repertoire lleisiol ac opera, cariad at berthynas y llais ag actio a symud, a phroffil/rhwydweithiau yn y byd canu.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lle i bawb, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob math o gefndiroedd a phrofiadau bywyd. Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob cwr o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn sbarduno arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, dylunwyr, technegwyr a rheolwyr celfyddydau o fwy na 30 o wledydd. Mae doniau a photensial aruthrol ein myfyrwyr, ac addysgu rhagorol a chysylltiadau heb eu tebyg yn y diwydiant, yn dod ynghyd i wireddu breuddwydion. Mae uchelgeisiau creadigol a chydweithio yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Mae ein myfyrwyr yn cael eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Mae’r Coleg yn gartref i rai o leoliadau mwyaf mawreddog Cymru, mae’n rhedeg canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen o berfformiadau a’n gweithwyr proffesiynol o safon fyd-eang yn rhan annatod o hyfforddiant y myfyrwyr. Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel y gallant wthio ffiniau newydd, gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, a mynd ymlaen i gael gyrfaoedd gwerth chweil. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg, yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn. Mae’r Coleg wedi ymrwymo i’w Strategaeth ar y Gymraeg a’i Diwylliant a bydd yn cynnig cymorth a hyfforddiant i'r ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.
Rydym yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl i wyliau blynyddol hael. Rhagor o wybodaeth am y manteision o weithio gyda ni.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â tim.rhys-evans@rwcmd.ac.uk
Cyfweliadau: 07/05/2025