Mae Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn ddigwyddiad 2 ddiwrnod sy’n addas i’r teulu cyfan, gan arddangos bwyd a diod, cynaliadwyedd ac adloniant o Gymru.
Mae Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru wedi bod yn curadu cerddoriaeth yr ŵyl ers 2021. Eleni, byddwn yn parhau i hyrwyddo rhaglen gerddorol sy’n arddangos artistiaid ifanc, cerddorion mwyafrifol byd-eang, ac artistiaid amgen, eclectig.
Rydym ni yn edrych am GAC i ymuno â'r tîm fel Hyrwyddwr Cerddoriaeth a Chynorthwydd Cynhyrchu!
Mae'r rôl hon rhwng Ebrill a Medi 2025. Gallwch ddod o hyd i'r disgrifiad swydd yma.
Dyddiad cau ceisiadau: Hanner nos 13 Ebrill 2025
Dyddiad cau: 13/04/2025