Mae NoFit State Circus yn chwilio am yrrwr HGV i ymuno â’n tîm gwych sy’n mynd ar daith sioe Big Top, SABOTAGE.
Mae NoFit State Circus yn chwilio am berson brwdfrydig, mecanyddol ei feddwl i ymuno â ni ar daith fel Gyrrwr a Chriw.
Dyma swydd deithiol lawn amser sy'n golygu mynd ar daith gyda chwmni SABOTAGE mewn Big Top a charafannau. Rydyn ni'n byw ac yn teithio gyda'n gilydd, yn gweithio’n galed ac yn mwynhau bywyd. Rydyn ni'n dymuno i’r bobl sy’n ymuno â ni fod yn rhai sy’n taflu eu hunain i’n ffordd ni o fyw.
Math o Gontract: Contract cyfnod penodol llawrydd
Dyddiadau'r Contract: Canol Mai 2025 tan ddiwedd Hydref 2025
Oriau Gwaith: Swydd lawn amser
Cyflog: £550-£600 yr wythnos, yn dibynnu ar brofiad
Lleoliad: Teithio yn y DU ac Iwerddon
Darllenwch y Disgrifiad Swydd i ddarganfod mwy am y rôl. https://www.nofitstate.org/cy/amdanom/gyrfaoedd-a-chastio/hgv/
Os teimlwch y gallech wneud y swydd hon ond nad ydych yn ticio pob bocs ym manyleb y person, neu os credwch y byddai arnoch angen tipyn o hyfforddiant neu gefnogaeth ychwanegol er mwyn llwyddo’n llwyr, byddem yn dal wrth ein bodd yn clywed wrthych. Fodd bynnag, rhaid i chi feddu ar drwydded yrru C+E ddilys a phasbort.