Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn chwilio am Gynorthwy-ydd Cyngherddau a Phrosiectau i ymuno â’n tîm yn Sinfonia Cymru. Byddwch yn gweithio gyda’r Rheolwr Cyffredinol i sicrhau bod y gwaith o gynllunio a chyflwyno ein prosiectau siambr a cherddorfaol yn rhedeg yn llyfn; byddwch hefyd yn helpu gyda’r paratoadau logistaidd ynghlwm â holl weithgaredd y gerddorfa, yn cynnwys gwneud trefniadau llety a theithio ar gyfer y cerddorion, paratoi a dosbarthu amserlenni i gerddorion, timau technegol a chanolfannau, cynnal catalog y llyfrgell gerdd, a hurio a pharatoi’r gwahanol rannau cerddorol.

Cyflog ac amodau 

Swydd ran-amser 4 diwrnod yr wythnos yw hon, gyda chyflog oddeutu £19,200 y flwyddyn (yn seiliedig ar gyflog cyfwerth ag Amser Llawn o £24,000 y flwyddyn). Rydym yn sefydliad bychan sy’n gweithredu trefniant gwaith hyblyg, gan gynnig cyfuniad o weithio o gartref a gweithio o’n hybiau Hafan lleol yng Nghasnewydd, Bro Morgannwg ac Aberystwyth. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n rheolaidd o Fro Morgannwg (lleoliad ein Rheolwr Cyngherddau a Phrosiectau) a Chaerdydd (lleoliad ein llyfrgell gerdd), a bydd yn teithio’n rheolaidd ledled Cymru gyda’r cerddorion. Bydd yr hawl i wyliau’n seiliedig ar nifer cyfwerth ag amser llawn o 20 diwrnod ynghyd â gwyliau banc (8). Yn seiliedig ar yr amserlen ar gyfer ymarferion a pherfformiadau, mae’r rôl yn gofyn am weithio’n rheolaidd ar y penwythnos a’r tu allan i oriau swyddfa, a threulio rhai cyfnodau byr oddi cartref. 

Cyflwyno cais 

Dylid anfon ceisiadau drwy bost at caroline@sinfonia.cymru. Gofynnir i chi gynnwys CV, ynghyd â chais ysgrifenedig o ddim mwy na dwy dudalen ychwanegol yn datgan eich diddordeb yn y rôl a nodi beth, yn eich barn chi, y gallech ei gyfrannu i Sinfonia Cymru. Dylid cyflwyno’r cais ysgrifenedig yn Gymraeg neu yn Saesneg. Dylid darparu’r cais llawn mewn un ffeil PDF. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd ar 14 Mai 2025. Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i fynychu cyfweliad ar 20 neu 21 Mai 2025, lle gofynnir iddynt gwblhau cyfweliad a hyd at ddwy dasg ymarferol fechan. Byddem yn dymuno i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted â phosib.
 

Dyddiad cau: 14/05/2025