Mae Gŵyl Grefft Cymru yn ddigwyddiad newydd pwysig a gynhelir yng Nghastell Aberteifi rhwng 6-8 Medi 2024. Mae hi'n ddathliad o wneud ar y cyd a gefnogir gan sefydliadau celfyddydau blaenllaw o Gymru a thu hwnt.
Bydd yr ŵyl yn croesawu dros 80 o wneuthurwyr ac hefyd yn cyflwyno The Capital of Craft YN FYW, Allan O’r Goedwig, arddangosiadau, arddangosfeydd, gweithdai, gweithgareddau i'r plant, cerddoriaeth fyw, theatr & dweud storïau, a bydd digwyddiadau ategol yn cael eu cynnal ar draws y dref.
Gwahoddir ceisiadau gan wneuthurwyr sy'n gweithio i'r safonau uchaf. Hoffem glywed gennych os:
-Rydych yn gwneud cerameg, gwydr, tecstilau, gemwaith, metel, pren, plastigion, cyfryngau cymysg, lledr, defnyddiau wedi'u hailgylchu, gwneud printiau a phapur.
-Mae eich gwaith yn dangos ymrwymiad i ansawdd o ran gwneuthuriad, cyflwyniad a gwreiddioldeb.
-Rydych yn byw yn unrhyw ran o'r byd.
Roedd ceisiadau wedi'u hagor ar 12 Chwefror a'r dyddiad cau yw 6pm ar 5 Ebrill.
Cynhyrchir Gŵyl Grefft Cymru mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Celfyddydau Cymru a QEST.
Partneriaid Gŵyl Grefft Cymru yw: Castell Aberteifi, Cered - Menter Iaith Ceredigion, Coleg Sir Gâr, Darganfod Ceredigion, Llantarnam Grange, Make it in Wales, Mwldan, Amgueddfa Wlân Cymru, Oriel Myrddin Gallery (Cyngor Sir Caerfyrddin), Queen Elizabeth Scholarship Trust (QEST) a Sea & Slate,
Y cefnogwyr yw: Awen Teifi, Canfas, Cyngor Tref Aberteifi, Cardigan Bay Brownies, Coleg Ceredigion, Crwst, Fforest a Theatr Byd Bach.
I gael gwybodaeth, ewch i https://www.craftfestival.co.uk/Wales/