8 Rhagfyr 2023 12.00 i 1.00 cyflwyniadau ynghyd â 30 munud ar gyfer cwestiynau
Am ddim - ar-lein trwy Zoom
Sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yn eich sefydliad theatr, a phwy sy’n atebol amdanynt? Pa mor dda y mae eich sefydliad yn cyflawni ei amcanion a sut y caiff ei berfformiad ei optimeiddio?
Mae deall beth yw llywodraethu da a sut i'w roi ar waith yn helpu i ateb y cwestiynau hyn. Mae llywodraethu yn ddull systemig yn hytrach nag un gweithgaredd neu swyddogaeth, a phan gaiff ei wneud yn dda mae'n cefnogi'r sefydliad a'i weithwyr. Mae’n helpu i reoli risg a heriau mawr fel diffygion economaidd neu newidiadau i bolisïau’r llywodraeth, ac yn sicrhau bod eich sefydliad yn gweithredu’n gyfreithlon, yn foesegol, yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus.
Ym mlwyddyn gyntaf y prosiect Resilient Theatres: Resilient Communities, cymerodd naw grŵp Theatres at Risk ran mewn hyfforddiant grŵp ar lywodraethu a ddarparwyd gan yr hwylusydd ac ymgynghorydd arbenigol, Laura Norris. Yn ystod y weminar hon bydd Laura yn siarad am rai o’r pynciau llywodraethu a drafodwyd yn ystod yr hyfforddiant, megis recriwtio ymddiriedolwyr. Bydd cyfranogwyr yr hyfforddiant Samantha Kelly a Christopher Oatway, ymddiriedolwyr y Victoria Theatre yn Salford, Manceinion Fwyaf yn rhannu sut mae eu barn am lywodraethu wedi newid o ganlyniad i'r hyfforddiant a sut maen nhw'n ymdrin â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Bydd Siân Eagar, Cynghorydd Theatres at Risk a Resilient Theatres: Resilient Communities yn rhoi trosolwg o egwyddorion llywodraethu megis arweinyddiaeth, gwneud penderfyniadau a risg. Bydd Siân yn cynnig offer ymarferol i helpu i ganolbwyntio eich arferion llywodraethu ar gyflawni pwrpas a gweledigaeth eich sefydliad.
Ar gyfer pwy mae'r weminar hon?
Bydd y weminar yn rhoi cyflwyniad i lywodraethu a bydd hefyd yn fodd i atgoffa'r rhai sy'n gyfarwydd ag ef. Bydd yn addas ar gyfer ymddiriedolwyr, gweithwyr AD proffesiynol, prif weithredwyr sydd newydd eu penodi, grwpiau ymgyrchu ac unrhyw un mewn rôl arweiniol mewn sefydliad nid-er-elw.
Mae Resilient Theatres: Resilient Communities wedi’i wneud yn bosibl diolch i grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ogystal ag arian gan y Pilgrim Trust a Swire Charitable Trust.