Bydd y ffurflen gais hon yn cymryd tua 3 munud i'w llenwi. Os oes angen i chi gyflwyno'r wybodaeth hon mewn fformat arall e-bostiwch mari@pyst.net
Rydym yn chwilio am Siaradwyr Cymraeg Ifanc i gymryd rhan mewn grŵp ffocws yn trafod sut mae’r celfyddydau yng Nghymru yn cael eu cynrychioli’n ddigidol ar hyn o bryd, a sut y gall AM wella ymgysylltiad â’r celfyddydau.
Ffurflen Gais YMA
Hyd: 1 Awr
Nifer y cyfranogwyr: 6
Iaith: Cymraeg
Lleoliad: Zoom
Tâl: £50
Dyddiad: Cynhelir y Grŵp Ffocws ar Ddydd Mawrth, Ionawr 14eg 2025 am 6pm.
Meini Prawf yr Ymgeisydd
Oedran: 18- 25
Lleoliad: Wedi'i leoli yng Nghymru
Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y grŵp ffocws hwn, cwblhewch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i'r alwad ddod i ben. Dyddiad cau: 13/12/2024
Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth yn fawr i sicrhau bod platfform AM yn parhau i ddatblygu a thyfu yn seiliedig ar anghenion ein cynulleidfa.