Mae Chippy Lane Productions Ltd yn cynnig cyfle i unigolyn dreulio 8 niwrnod fel Cynhyrchydd dan Hyfforddiant wrth ddatblygu sioe gerdd newydd 'Toy Mic Trev', a ysgrifennwyd gan Rebecca Jade Hammond ac a gyfansoddwyd gan Hannah Noone.
Mae Toy Mic Trev yn llythyr caru at lejend o Gaerdydd. Roedd y bysgiwr Trevor Rees yn rhan holl bwysig o wead diwylliannol Caerdydd - nes iddo fynd ar goll. Roedd cymaint o bobl yn adnabod ac yn caru Toy Mic Trev, ac mae'r sioe gerdd newydd hon yn darlunio stori ryfeddol y dyn y tu ôl i'r meicroffon plastig. Mae ein cynhyrchiad dwyieithog yn dathlu cymuned unigryw Caerdydd a'r bobl gyffredin sy'n creu gwead dinas.
Rydym yn cynnal tair wythnos o ymchwil a datblygu ym mis Mawrth a Mehefin 2024 i ddatblygu'r sioe, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd hyn yn cynnwys cynnal cyfres o weithdai cydweithredol gyda chorau cymunedol, i lywio cerddoriaeth y sioe. Mae sawl wythnos o ddatblygu eisoes wedi digwydd yn 2021 a 2023, felly byddwn yn adeiladu ar y sgript a'r sgôr presennol.
Cynhelir yr ymarferion ymchwil a datblygu yn ystod yr wythnosau canlynol:
- Dydd Llun 18fed – dydd Gwener 22ain Mawrth 2024: ymarferion yn Theatr y Sherman
- Dydd Llun 10fed – dydd Gwener 21ain Mehefin 2024: ymarferion yng Nghanolfan Mileniwn Cymru
Bydd y Cynhyrchydd dan Hyfforddiant yn cael cyfle i dreulio 8 niwrnod yn gweithio gyda'r Cynhyrchydd (Tom Bevan) ar y sioe, cyn, yn ystod ac ar ôl y dyddiadau ymarfer hyn. Bydd union ddyddiadau gwaith yn cael eu cytuno ar y cyd gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.
Os oes agweddau ar gynhyrchu yr ydych yn arbennig o awyddus i'w harchwilio, gallwn siapio'r hyfforddiant o amgylch y diddordebau hynny. Yn yr un modd, nid oes angen i chi fod â meysydd diddordeb diffiniedig ar hyn o bryd.
Am bwy ydym ni'n chwilio?
Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan unigolion sydd â diddordeb ac sy'n angerddol am greu theatr gerdd newydd. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod â chefndir mewn cynhyrchu theatr. Efallai eich bod wedi graddio'n ddiweddar; yn gefnogwr brwd o’r theatr ac yn barod i symud o fod yn y gynulleidfa i greu theatr; rhywun sydd wedi cynhyrchu mewn ffurfiau celf eraill ac sydd nawr eisiau rhoi cynnig ar theatr; neu rywun sydd wedi gweithio mewn theatr ond erioed wedi cynhyrchu o'r blaen.
Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan bobl nad ydym wedi cwrdd â nhw neu ymgysylltu â nhw o'r blaen fel cwmni. Os nad ydych yn siŵr a ddylech wneud cais, peidiwch ag oedi cyn cysylltu am sgwrs anffurfiol am y rôl drwy e-bostio'r cynhyrchydd Tom Bevan toymictrevproducer@gmail.com.
Sylwer, ni allwn gynnwys teithio o'r tu allan i Gaerdydd na llety, felly bydd angen i chi fod wedi'ch lleoli o fewn pellter cymudo i Theatr y Sherman a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Beth yw'r ffi?
8 niwrnod yn ystod y prosiect am £150 y dydd, yn unol â chyfraddau ITC. Mae lwfans teithio cymedrol hefyd ar gyfer teithio o fewn ac o amgylch Caerdydd, wedi'i gapio ar £60 yn ystod yr hyfforddiant ac yn daladwy ar ôl darparu derbynebau.
Beth fydd y broses recriwtio?
Anfonwch:
- Llythyr eglurhaol (dim mwy nag un ochr o A4) NEU recordiad/fideo llais (dim mwy na 2 funud o hyd) yn esbonio beth rydych chi am ei gael allan o'r hyfforddiant hwn a'r hyn y byddech chi'n ei gynnig i'r rôl cynhyrchydd dan hyfforddiant
a
- CV cyfredol (PDF neu fformat Word).
At y Cynhyrchydd Tom Bevan toymictrevproducer@gmail.com.
Llenwch y ffurflen fonitro hon hefyd: https://bit.ly/3DQ8n9k. Mae’n ddienw ac ni fydd mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig â'ch cais.
Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad ac angen addasiadau i'r broses ymgeisio, cysylltwch â ni drwy e-bost.
Pryd mae'r dyddiad cau?
Dydd Llun 29ain Ionawr, 10am.
Byddwn yn cynnal sgyrsiau anffurfiol 20 munud ar Zoom ar 8 Chwefror. Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn gwneud cais os oes gennych unrhyw wrthdaro amserlennu neu anghenion mynediad ar gyfer mynychu’r alwad Zoom.