Mae Galeri Caernarfon yn gwahodd artistiaid i anfon eich cynigion ar gyfer ein safleoedd arddangos amrywiol atom. Rydym am i gyflwynwyr fod mor greadigol â phosibl gyda'ch ymatebion a chroesawn amrywiaeth o ffurfiau a deunyddiau celf. Gallai hyn gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i baentio, lluniadu, cerameg, tecstilau, cerflunwaith, ffotograffiaeth, ffilm, darlunio neu osodiadau.

Bydd y gwaith a ddewisir yn cael ei gynnwys yn ein rhaglen arddangosfeydd 2024-2026. Bydd cynigion yn cael eu dewis drwy banel dethol yn cynnwys dau feirniad gwadd (i’w gadarnhau), Naomi Saunders Cyfarwyddwr Creadigol Galeri a Ffion Evans Cydlynydd Celf Galeri.

Mae croeso i chi wneud cais am un gofod arddangos yn benodol neu am mwy nag un lleoliad. Nodwch pa ofod y mae eich cynnig wedi'i fwriadu ar ei gyfer yn eich cais. Rydym yn croesawu gwaith a grëwyd yn flaenorol neu gynigion ar gyfer gwaith newydd. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan artistiaid lleol a rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Am fwy o wybodaeth gweler ein gwefan.

Unrhyw gwestiynau cysylltwch Ffion.evans@galericaernarfon.com

Dyddiad cau: 15/04/2024