Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer y drydedd gyfres o gomisiynau artistiaid llawrydd gan Volcano.
Mae’r cwmni yn bwriadu unwaith eto comisiynu chwe pherfformiwr, dros bythefnos yr un, i wneud perfformiadau byr unigol yn un o’r mannau yn eu lleoliad yn Stryd Fawr Abertawe.
Y syniad y tu ôl i’r prosiect hwn yw annog perfformwyr i ddatblygu dulliau perfformio newydd o flaen cynulleidfaoedd bach brwdfrydig.
Mae’r gwaith a grëwyd o dan y rhaglen hyd yma wedi ymchwilio i bynciau mor amrywiol â dyfodol cymunedau arfordirol Cymraeg eu hiaith, y posibiliadau prynwriaeth bleserus ar blaned gyfyngedig, ac effaith roboteiddio ar fodau dynol, ac wedi mynd ymlaen i berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Vault Festival, Camden People’s Theatre, The Torch, Dance House Cardiff a thu hwnt
Mae Ar Lan y Môr gan Rhiannon Mair o 2022 yn ymddangos yn Theatr y Glowyr yn Rhydaman yr wythnos hon, ac mae darn 2023 Ruth Berkoff The Beauty of Being Herd ar daith yng ngogledd Lloegr ar hyn o bryd.
Ffi artist: £1500. I ddarganfod mwy ac i wneud cais am un o gomisiynau eleni, dilynwch y ddolen.
Yn y llun: Aasiya Shah, I Did Not Just Waste My Life, 2023.