Mae’n bleser gan Brifysgol Caerdydd a Ffotogallery gynnig ysgoloriaeth ymchwil Ysgol Graddedigion Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol (WGSSS) (ESRC DTP) wedi’i hariannu’n llawn o dan y Llwybr Newyddiaduraeth, Cyfryngau Digidol a Democratiaeth.
AM Y PROSIECT
Efrydiaeth PhD a ariennir gan ESRC ar Archif y Cymoedd yn Ffotogallery: Cymuned, Ffotograffiaeth a Democratiaeth yn Ne Cymru, 1978-2028
Dyddiad cychwyn: Dydd Mercher 1 Hydref 2025
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 16 Mai 2025
Cynhelir cyfweliadau ar-lein ddydd Iau 22 Mai 2025
Trosolwg o’r Prosiect:
Mae’r prosiect doethurol rhyngddisgyblaethol cyd-greadigol hwn yn canolbwyntio ar gasgliad o ffotograffau dogfennol hanesyddol a gomisiynwyd gan Ffotogallery yn yr 1980au a elwir yn ‘ Prosiect y Cymoedd ’.
I gyd-fynd â hanner can mlwyddiant Ffotogallery yn 2028, bydd yr ysgoloriaeth ymchwil yn archwilio sut y gellir harneisio archifau ffotograffig hanesyddol i fynd i’r afael â materion dybryd yn ymwneud â dadryddfreinio a chydlyniant cymunedol, gwelededd a chynrychiolaeth, a llythrennedd gweledol a datblygu sgiliau yn yr oes ddigidol.
Yn ogystal ag archwilio hanes y casgliad, bydd yr ymchwilydd yn arwain y gwaith o ddylunio a darparu rhaglen o weithgareddau personol ac adnoddau ar-lein mewn cydweithrediad â Ffotogallery i agor yr archif i gymunedau De Cymru. Yn ogystal â thesis, mae allbynnau arfaethedig yn cynnwys gweithdai sy'n defnyddio'r casgliad i archwilio allgáu cymdeithasol a rhagfarn; comisiynu gwaith gan gyfranogwyr cymunedol; cyd-gynhyrchu rhyngwyneb a dehongli ar gyfer archwilio'r archif ddigidol; ac arddangosfa gyhoeddus.
Canlyniad bwriadedig yr ysgoloriaeth yw ehangu gwybodaeth a chyfoethogi ymarfer yn y Sector Orielau, Llyfrgelloedd, Archifau ac Amgueddfeydd mewn perthynas ag ymgysylltu â’r cyhoedd ag archifau wedi’u digideiddio, gan ddefnyddio Prosiect y Cymoedd fel adnodd hanesyddol hanfodol i hyrwyddo llythrennedd digidol, ymgysylltiad democrataidd, a chynrychiolaeth gymdeithasol.
Gan ganolbwyntio ar yr adnodd hanesyddol gwerthfawr hwn, mae’r efrydiaeth yn mynd i’r afael ag adroddiadau, archifau, cyfryngau digidol, i archwilio hanes a dinasyddiaeth mewn democratiaeth ddigidol. I wneud hynny, bydd yn ateb cwestiynau hollbwysig nid yn unig am yr adnoddau hanesyddol, ond hefyd am ffotograffiaeth, cynrychiolaeth, cyfranogiad a gwleidyddiaeth. Mae cwestiynau ymchwil posibl yn cynnwys y canlynol:
- Pa ffactorau cymdeithasol a gwleidyddol sydd i gyfrif am ddatblygiad hanesyddol Prosiect y Cymoedd yn Ffotogallery?
- Pa rôl a chwaraeodd cyfranogiad cymunedol yn ei ddatblygiad a'i ddull o gynrychioli'r rhanbarth?
- Beth yw barn cynulleidfaoedd cyfoes am y ddelwedd o Gymoedd y De sy’n cael ei thaflunio gan Archif y Cymoedd?
- Sut y gellir gwneud yr archif yn hygyrch a'i hailddehongli i gysylltu â heriau cymdeithasol cyfredol?
- Sut mae trigolion cyfoes yn defnyddio cyfryngau gweledol i ddogfennu pryderon cyfochrog heddiw (ee, banciau bwyd a'r argyfwng costau byw, ymgyrchu gwleidyddol a chyfryngau cymdeithasol ar ôl Brexit, actifiaeth ar lawr gwlad a newyddiaduraeth leol, neu ddad-ddiwydianeiddio a hunaniaethau ieuenctid)?
- Pa fodelau o brosiectau ffotograffiaeth cyfranogol (fel PhotoVoice) a pha addysgeg ymgysylltu ag archifau (ee theori llythrennedd beirniadol) all gefnogi'r gwaith hwn?
Gan weithio’n agos gyda chymunedau i gydgynhyrchu ymchwil, bydd yr ymgeisydd a ddewisir yn cael y cyfle i ddefnyddio dull cydweithredol, o’r gwaelod i fyny i ddewis meysydd ffocws o fewn y casgliad, gan ymgysylltu â thrigolion yn y gwaith o ddylunio a dadansoddi’r ymchwil i hwyluso astudiaeth sy’n berthnasol yn lleol ac sy’n cael effaith. Yn dibynnu ar nodau a dull yr ymchwil, gall y myfyriwr ddefnyddio unrhyw un o’r canlynol:
- ymchwil archifol / hanesyddol;
- cyfweliad lled-strwythur, grwpiau ffocws neu hanesion llafar;
- prosiectau tynnu lluniau neu ffotograffau cyfranogol; a
- dylunio adnoddau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a datblygu sgiliau.
Meini Prawf Mynediad:
I dderbyn cyllid ysgoloriaeth WGSSS, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso hefyd i fyfyrwyr â chefndir academaidd anhraddodiadol wneud cais.
Hyd yr astudiaeth:
Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 mlynedd amser llawn (neu gyfwerth rhan amser).
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir trwy gwblhau Dadansoddiad Anghenion Datblygu. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaethau amser llawn a rhan-amser.
Lleoliad ymchwil mewn ymarfer:
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan WGSSS gwblhau lleoliad Ymchwil ar Waith a ariennir o gyfanswm o 3 mis (neu gyfwerth rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliadau academia, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.
Cymhwysedd Rhyngwladol:
Mae ysgoloriaethau ymchwil WGSSS ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth ffioedd rhwng y DU a chyfradd ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI .
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Mae WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob aelod o’r gymuned fyd-eang waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Sut i wneud cais:
Gwneir cais trwy e-bost at allbesont@caerdydd.ac.uk
Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol gyda'ch cais:
- Ffurflen Gais WGSSS
- CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen)
- 2 geirda academaidd neu broffesiynol (rhaid i ymgeiswyr fynd at y canolwyr eu hunain a chynnwys tystlythyrau gyda'u cais. Rhaid i'r geirda fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd).
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (gan gynnwys cyfieithiadau os yn berthnasol)
- Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd Iaith Saesneg (Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos hyfedredd yn yr iaith Saesneg gydag IELTS o 7.5 gydag o leiaf 7.0 ym mhob is-sgôr, neu gyfwerth).
Dylid derbyn ceisiadau ddim hwyrach na dydd Gwener 16 Mai 2025 (17:00, amser y DU) gan gynnwys yr holl ddogfennau gofynnol. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.
Asesiad:
Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o’r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ar eu syniadau ar gyfer datblygu’r prosiect, ac ateb cyfres o gwestiynau panel gan y panel cyfweld ynghylch eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad perthnasol. Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal ar-lein ddydd Iau 22 Mai 2025 .
NODIADAU ARIANNOL
Mae'r efrydiaeth a ariennir gan yr ESRC yn cynnwys ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.
Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.