Mae Gwasanaethau Theatrig Caerdydd (CTS) yn is-gwmni sydd yn eiddo llwyr i Opera Cenedlaethol Cymru. Bydd y Dirprwy Bennaeth Celf Golygfeydd yn gweithio fel rhan o dîm i gynhyrchu golygfeydd o’r radd flaenaf wedi eu contractio i CTS gan gleientiaid amrywiol o’r DU a thramor.

Prif Ddiben y Swydd:

Helpu i reoli’r adran celf golygfeydd wrth gyflawni prosiectau, a rheoli staff yn effeithiol. Gweithio ochr yn ochr â Phennaeth Celf Golygfeydd a’r Pennaeth Adeiladwaith i greu amgylchedd gwaith cydweithredol lle mae’r holl staff yn cael eu hannog i ddatblygu a ffynnu yn eu crefft. Cynnal ansawdd eithriadol o uchel y cwmni o ran gwaith celf golygfeydd, a chwilio'n gyson am sgiliau, cynhyrchion a thechnegau newydd er mwyn sicrhau bod CTS yn parhau i fod ar flaen y gad o ran darpariaeth celf golygfeydd yn y DU. Dirprwyo ar gyfer y Pennaeth Celf Golygfeydd yn ôl yr angen.

Cyflog:

£37,800 y flwyddyn.

 

Contract:

Cyfnod Penodol – Cyfnod Mamolaeth – 12 Mis

Dyddiad cau: 14/04/2024