Mae Hijinx yn recriwtio Cynhyrchydd Cysylltiol ar sail rhan-amser i gefnogi’r Pennaeth Ffilm gyda phob agwedd o raglen ffilmiau Hijinx. Yn y swydd Cynhyrchydd Cysylltiol, rydych yn aelod allweddol o’r tîm creadigol ac yn gyfrifol am gynorthwyo’r Pennaeth Ffilm i greu rhaglenni dogfen o safon uchel, ffilmiau byr a ffilmiau hir sy’n arddangos actorion Hijinx ac yn adlewyrchu profiad pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistig. Byddwch hefyd yn cefnogi cynllunio a chyflawni Gŵyl Ffilmiau Undod.
Bydd gennych brofiad mewn swydd debyg yn y diwydiant Ffilm a Theledu ac yn rhywun llawn cymhelliant sydd yn eich ysgogi eich hun. Byddwch yn cefnogi’r Pennaeth Ffilm gyda phob elfen o’r rhaglen ffilmiau yn Hijinx, gan sicrhau ei bod yn parhau i gael ei gwreiddio yn ei chenhadaeth i gynyddu cynrychiolaeth pobl anabl ar y sgrin.
TELERAU
- Teitl swydd: Cynhyrchydd Cysylltiol
- Rheolwr Llinell: Pennaeth Ffilm
- Yn gyfrifol am: Gwirfoddolwyr a gweithwyr llawrydd yn ôl y gofyn
- Contract: Swydd barhaol (6 mis o brawf)
- Oriau: Rhan-amser, 15 awr yr wythnos i’w cyflawni’n hyblyg yn ôl y gofyn i gyflawni gofynion y swydd. Rhoddir amser o’r gwaith in lieu.
- Yn gweithio o: Swyddfa Hijinx, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd – gweithio hybrid ar gael
- Cyflog/Buddion: £26,500 y flwyddyn pro-rata (£10,600 gwirioneddol)
- Mae Hijinx yn cynnig cynllun pensiwn gweithle trwy Nest, cynllun Beicio i’r Gwaith a Rhaglen Cynorthwyo Gweithwyr.
- Yn ychwanegol, rydym yn cynnig cefnogaeth i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg. Mae Hijinx wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus a bydd yn gweithio’n glos gyda deiliad y swydd i sicrhau bod ei anghenion hyfforddiant yn cael eu bodloni.
- Gwyliau: 25 diwrnod y flwyddyn a gwyliau banc statudol, pro-rata (10.5 diwrnod y flwyddyn; 3 Gŵyl y Banc)
Ewch i weld ein gwefan a lawrlwytho’r pecyn swydd i gael rhagor o wybodaeth neu cysylltwch â Dan.McGowan@hijinx.org.uk. Edrychwn ymlaen at gael clywed gennych.