Sefydliad Corfforedig Elusennol bach ond nerthol yw Impelo wedi'i leoli ym Mhowys, canolbarth Cymru.
Mae Impelo yn rhannu pŵer trawsnewidiol o ddawns, gan gysylltu pobl a chymunedau trwy fynegiant llawn llawenydd. Ein parch at ethos, methodoleg a gwreiddiau dawns gymunedol yw ein sylfaen er mwyn sicrhau bod gwreiddiau a llwybrau ein gwaith yn gynrychioliadol, hygyrch ac ystyrlon.
Nid ffordd Impelo o weithio yw norm y diwydiant. Mewn gwirionedd, mae wrthi’n newid yr ecosystem ddawns bresennol, strwythurau pŵer a chanfyddiadau o ansawdd. Rydym yn: ddewr, ymatebol, caredig, athronyddol, iachus a beiddgar.
Trwy gyllid SPF llwyddiannus rydym yn chwilio am Cynhyrchydd Creadigol Dysgu, a fydd, ynghyd â’r Weithrediaeth a Chynhyrchwyr Creadigol, yn llywio ac yn datblygu ein gwaith gydag, ac mewn ysgolion ar adeg o drawsnewid i’r sefydliad.
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Cynhyrchydd Creadigol Dysgu
Lleoliad: O bell, gyda rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb ym Mhowys, Cymru. Efallai y bydd angen teithio i ysgolion ym Mhowys hefyd.
Math o rôl: Llawrydd, 33 diwrnod. Gorffennaf - Rhagfyr 2024 - gellir mabwysiadu oriau hyblyg a phatrwm gwaith trwy gydol y contract a bydd angen pwyntiau cyswllt rheolaidd gyda chynhyrchwyr Impelo (yn ddigidol neu wyneb yn wyneb).
Cyflog: £180 y diwrnod
Y rôl
Bydd y Cynhyrchydd Creadigol Dysgu yn arwain ar fodel cyflwyno prawf a gwaith sylfaen; cynnal ymchwil ac ymgynghori ag ysgolion a dawnswyr i danategu angen, cysylltu ysgolion a dawnswyr â’i gilydd i dreialu dulliau gweithredu, gweithdai ac ymyriadau prosiect, yna curadu, contractio a chreu fframwaith model darparu i ysgolion i’w gyflwyno fis Tachwedd - Mawrth 2024, o fewn cyllideb benodedig.
Bydd ffocws ar ymchwil a datblygu modelau darparu cynaliadwy a graddadwy yn ogystal â gweithio yn unol â’n polisïau amgylcheddol a’n polisïau iaith Gymraeg.
Bydd angen datblygu perthynas ag ysgolion, bod yn chwilfrydig am bŵer trawsnewidiol dawns a chefnogi dawnswyr sydd wedi’u lleoli ym Mhowys neu’r rhai sy’n gweithio ym Mhowys i wneud y gwaith hwn.
Mae Impelo hefyd yn darparu cynnig digidol i ysgolion o’n gwefan sy’n cynnwys adnoddau, fideos addysgu fesul tîm a llu o gefnogaeth i athrawon a draws Powys a Cheredigion. Byddem yn gwerthfawrogi eich cyfraniad ochr yn ochr â’r cynhyrchydd creadigol i chwilio am ffyrdd o ddatblygu ac ehangu’r elfennau yma.
Ewch i'n gwefan i gael disgrifiad swydd llawn a manylion ymgeisio.
Dyddiad cau 12pm dydd Gwener 28 Mehefin 2024
This role is made possible with Shared Prosperity Arts Funding through Powys County Council