Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwahodd ceisiadau gan unigolion / sefydliadau â phrofiad perthnasol i ddatblygu (o’r cysyniad i’r gosod) arwyddion effeithiol sy’n dathlu’r Gymraeg a’r synnwyr o le.
Rydym ni’n croesawu ceisiadau ar y cyd a gan gonsortia.
Mae’r gwaith hwn wedi’i ariannu drwy gynllun Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru.
Dyddiad cau: 23/10/2023