Beth?
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo rôl bwysig y celfyddydau o ran trawsnewid ein cymdeithas a’n heconomi i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byd natur.
Er mwyn codi ymwybyddiaeth o gyfoeth ac amrywiaeth y gwaith creadigol sydd wedi’i greu gyda’n cefnogaeth ni ledled Cymru, o ran y themâu cyfiawnder hinsawdd a’r argyfwng hinsawdd a byd natur, rydym yn gofyn i’r sector celfyddydau rannu rhai o’u dogfennau â ni.
Pam?
Rydym yn ymwybodol bod llawer o waith wedi’i greu yng Nghymru ar y themâu hyn dros y blynyddoedd, ac rydym eisiau sicrhau bod y gwaith hwn yn fwy gweladwy. Er mwyn cyflawni hyn, hoffem greu casgliad o luniau, fideos ac astudiaethau achos.
Er enghraifft, byddwn yn defnyddio’r deunydd hwn fel rhan o ddeunydd hyrwyddo a chyhoeddusrwydd mewnol ac allanol Cyngor Celfyddydau Cymru. Er enghraifft:
- i ddangos ein cynllun cyntaf ar gyfer Cyfiawnder Hinsawdd a’r Celfyddydau
- mewn diweddariadau ar ein gwaith sy’n seiliedig ar ein blaenoriaeth Cyfiawnder Hinsawdd
- mewn cyflwyniadau cyhoeddus rydym yn eu cynnal fel rhan o ddigwyddiadau yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Bydd hyn yn ein helpu i godi proffil y gwaith ysbrydoledig ac arloesol sydd wedi’i greu yng Nghymru a rhannu ei effaith.
Dyddiad cau
9 Medi 2024