Dydd Mercher, Mawrth 26ain
18:00-19:30
90-120 munud
Oedran: 18+ oed
Mae'r gweithdy dwyieithog hwn yn eich gwahodd i ystyried ystyr cyfiawnder fel person cwiar - yn enwedig fel person cwiar yng Nghymru - a sut mae cyfiawnder (neu ddiffyg cyfiawnder) yn rhan o hanes cwiar yn gyffredinol. Bydd Luke yn cyflwyno'r gweithdy'n ddwyieithog a bydd yn defnyddio ei ymchwil academaidd ei hun o iaith a hanes LHDTC+ yng Nghymru i ategu'r gweithdy.
Gwybodaeth am Hygyrchedd: Bydd dehongliad Iaith Arwyddion Prydain
Dadansoddiad o beth i'w ddisgwyl: (Cyflwynir pob rhan yn ddwyieithog yn Saesneg ac yna yn Gymraeg)
Cyflwyniad a thorri'r iâ
Trosolwg o hanes LHDTC+ a'r system gyfreithiol yng Nghymru
Ymarfer cwmwl geiriau am beth mae Cyfiawnder Cwiar yn ei olygu i chi
Enghreifftiau o unigolion hanesyddol LHDTC+ o Gymru a phrofiadau â'r system gyfreithiol
Gwahoddiad i ystyried sut olwg y gall fod ar gyfiawnder y tu hwnt i'r system gyfreithiol a'r gyfraith
Deunyddiau: Llyfr nodiadau a phin
Mae’r prosiect Creu Cymru Cwiar cysylltu pobl yn cael ei rhedeg gan On Your Face
Menter gymdeithasol yw OYF sy’n annog amlygrwydd i bobl greadigol LHDTC+ Cymru trwy ddigwyddiadau diwylliannol cwiar yn yr ardaloedd gwledig, cyfeirlyfr ar-lein (onyourfacecollective.org) a chreu swyddi â thâl ar gyfer y gymuned ar draws Cymru.
I ddarganfod rhagor, cymerwch gip ar ein tudalen Instagram @onyourfacecollective neu ewch i www.onyourfacecollective.org
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk