Ydych chi’n angerddol ynghylch y Celfyddydau yng Nghymru? Yna helpwch ni i gyflawni ein Gweledigaeth i "Greu Cymru greadigol lle mae'r celfyddydau wrth galon bywyd a llesiant y genedl"!
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru'n bodoli i gynorthwyo a datblygu'r Celfyddydau yng Nghymru. Mae'n gwneud hynny er budd pobl ar draws Cymru ac i hyrwyddo celfyddydau Cymreig ar lwyfan ryngwladol. Sefydlwyd y Cyngor dan Siarter Frenhinol, mae'n Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn ddosbarthwr arian y Loteri Genedlaethol ac yn Elusen gofrestredig.
Mae rôl y Cyfarwyddwr (Datblygu'r Celfyddydau) yn gyfle gwych i Weithredwr/Uwch Weithiwr dawnus gymryd rôl arwain, gan weithio ar y lefelau uchaf gydag un o sefydliadau elusennol mwyaf Cymru.
Fel aelod o Uwch Dîm Arwain Cyngor Celfyddydau Cymru, sef y prif gorff sy’n gwneud penderfyniadau ar ran y Cyngor, bydd disgwyl i'r Cyfarwyddwr (Datblygu'r Celfyddydau) arwain y gwaith o gyflawni gwasanaeth gwybodaeth fusnes mewnol ac allanol o safon uchel, a sicrhau bod trafodion busnes gyda'r sefydliadau a'r unigolion a ariannwn yn cael eu rheoli'n dda. Y Cyfarwyddwr yw hyrwyddwr corfforaethol y Cyngor Celfyddydau ar gyfer Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â sicrhau bod y Ddeddf yn dylanwadu ar strategaeth a chyflwyniad y Cyngor Celfyddydau ei hun, bydd y Cyfarwyddwr hefyd yn datblygu dulliau arloesol ar gyfer ymgorffori'r nodau llesiant ar draws y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru.
Bydd cyfrifoldebau lefel gorfforaethol penodol yn amrywio ac yn newid yn ôl y prosiectau y mae'r Cyngor yn dymuno eu datblygu. Ar hyn o bryd, y Cyfarwyddwr sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am Gyfathrebu'r Cyngor, Collectorplan a'n strategaeth Celfyddydau ac Iechyd.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad proffesiynol sylweddol o weithredu ar lefel rheolwr uwch mewn rôl debyg mewn amgylchedd ariannol neu ddyfarnu grantiau cymhleth. Byddai profiad o weithio yn y sector cyhoeddus, neu ym maes y celfyddydau’n fanteisiol, er nad yn hanfodol.
Mae’r swydd hon yn gyfrifol am hybu’r Gymraeg yn y sector celfyddydau, felly bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ymwybyddiaeth ymarferol da o’r iaith Gymraeg ac ymrwymiad i ddysgu’r iaith yn rhugl o fewn amser rhesymol (12 Mis) a bod angen hynny.
Ymhlith y buddion a gynigir mae oriau/patrwm gweithio hyblyg, gwyliau hael a phensiwn cyflog terfynol.
Mae pecyn ymgeiswyr cynhwysfawr ar wefan Goodson Thomas, ac mae'n cynnwys amserlen a manylion am sut i wneud cais. Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.goodsonthomas.com/opportunities.
I gael sgwrs gyfrinachol anffurfiol am y rôl, cysylltwch â'n hymgynghorydd, Goodson Thomas, ar info@goodsonthomas.com.
Dyddiad cau: 9:00 y bore ar 1 Medi 2021
Dyddiad y cyfweliad: 13 neu 14 Hydref 2021
Rydyn ni'n gweithredu Polisi Recriwtio Cyfle Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, a hynny yn Gymraeg neu Saesneg.