Bydd deiliad y rôl yn cyfrannu at gofnod ymchwil y Rhaglen drwy gyhoeddi ymchwil o ansawdd uchel, gan ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Byddant yn chwarae rhan ganolog wrth weithio ar draws rhaglen ymchwil Media Cymru a'i chysylltu ag amcanion ehangach Canolfan yr Economi Greadigol. Byddant yn cynnal ymchwil ar gyfer cyfres o adroddiadau a chyhoeddiadau, gan ganolbwyntio ar arloesi, clystyrau cyfryngau a chreadigol, a'r sector creadigol a'r cyfryngau yn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a thu hwnt. Byddyr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn arwain ac yn cefnogi datblygiad ceisiadau ymchwil newydd sy'n cysylltu â Media Cymru, a Chanolfan yr Economi Greadigol.  



Rydym yn croesawu ymgeiswyr ag arbenigedd o ystod eang o ddisgyblaethau academaidd, gan gynnwys diwydiannau creadigol, clystyrau creadigol/cyfryngol, daearyddiaeth economaidd (lleoedd creadigol), rheoli arloesi, gwyddorau cyfathrebu, astudiaethau trefol ac ymchwil rhwydwaith.



Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon am gyfnod penodol hyd at 31 Rhagfyr 2026.



Cyflog £39,347 - £44,263 y flwyddyn (Gradd 6).

 

Dyddiad cau: 08/01/2024