Cefnogi a chynorthwyo’r Cyfarwyddwr Cerddoriaeth drwy ddarparu cydlynu a gweinyddu effeithiol, gan alluogi gweithredu Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn llyfn ac yn effeithlon.

Gweinyddu

    • Gweithio'n agos gyda'r Tîm Cefnogi’r Cwmni i sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth yn rhedeg yn esmwyth
    • Cydlynu archebion ystafelloedd a lleoliadau (mewnol ac allanol)
    • Sicrhau bod gwersi ac ensembles yn cael eu hamserlennu'n effeithlon ac yn effeithiol, gan gefnogi'r Arweinwyr Tîm a'r Cysylltiadau Cerddoriaeth gydag amserlenni, rhestrau aros a staff cyflenwi yn ystod absenoldeb.
    • Sicrhau bod data myfyrwyr, rhieni / gofalwyr ac ysgolion yn cael eu diweddaru a'u bod yn hygyrch i aelodau'r tîm fel sy'n briodol
    • Goruchwylio'r broses o gofrestru myfyrwyr a cheisiadau archebu gan ysgolion
    • Cydlynu’r gwaith o weinyddu’r ensembles
    • Rheoli pob agwedd ar weinyddu arholiadau cerddoriaeth
    • Cyfrifoldeb am weinyddu a logisteg yr offerynnau, cerddoriaeth ddalen ac adnoddau technoleg, gan gynorthwyo gyda gweithredu prosesau a chadw cofnodion cywir
    • Cefnogi'r Tîm Cyllid a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth Theatr Clwyd gyda gweinyddu ariannol manwl gywir – gan gynnwys monitro’r gyllideb, cadw cofnodion, prosesu archebion, anfonebau ac ati.
    • Cydlynu'r broses Debyd Uniongyrchol, gan gwblhau cysoni misol a gwneud gwaith dilynol ar y camau gweithredu a gynhyrchir yn y broses hon
    • Cydlynu a, lle bo angen, ysgrifennu asesiadau risg a gwybodaeth iechyd a diogelwch arall
    • Casglu data meintiol ac ansoddol a pharatoi adroddiadau
    • Cefnogi a chynorthwyo gyda datblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau, prosesau a gweithdrefnau

 

Cyfathrebu

• Ymateb i ymholiadau gan ysgolion, rhieni, Cysylltiadau Cerddoriaeth, sefydliadau partner a rhanddeiliaid eraill

• Cydlynu cylchlythyrau e-bost

• Diweddaru e-byst templed

• Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd a marchnata

• Diweddaru gwefan yr Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth

• Monitro a diweddaru sianeli cyfryngau cymdeithasol

• Rheoli llyfrgell cyfryngau'r Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth (ffotograffau, fideos, sain)

• Cynorthwyo gyda chasglu gwybodaeth ar gyfer y tîm codi arian

 

 

Cefnogi prosiectau a digwyddiadau

    • Lle bo hynny'n briodol, cydlynu’r gwaith o gynllunio a chyflwyno prosiectau a digwyddiadau
    • Ar y cyd â'r tîm Pobl, cynorthwyo gyda gweinyddu a chylwyno hyfforddiant
    • Cefnogaeth mewn digwyddiadau a phrosiectau

 

 

 

Cyffredinol

    • Cefnogi'r Cyfarwyddwr Cerddoriaeth i gyflawni'r weledigaeth a'r strategaeth.
    • Cynnal perthnasoedd cadarnhaol ag aelodau cwmni Theatr Clwyd, rhieni / gofalwyr, ysgolion, a'r holl randdeiliaid eraill
    • Cefnogi’r Cyfarwyddwr Cerddoriaeth i integreiddio’r adran yn llawn yn rhaglen ehangach Theatr Clwyd
    • Gweithio'n agos gyda'r Tîm Ymgysylltu Creadigol, gan sicrhau lle bo hynny'n bosibl bod amcanion a chanlyniadau yn cyd-fynd
    • Cydlynu lleoliadau profiad gwaith a hyfforddiant
    • Gweithio er budd gorau'r theatr ac yn unol â pholisïau'r cwmni gan gynnwys iechyd a diogelwch, diogelu, cynhyrchu data a TG; a sicrhau bod yr holl weithgareddau ymgysylltu creadigol yn cael eu cynllunio yn unol â pholisi'r cwmni hefyd.
    • Bod yn llysgennad gweithgar i Theatr Clwyd bob amser, gan ddarparu’r lefel uchaf o ofal cwsmer, a hyrwyddo gwaith y theatr a chodi arian.
    • Ymgymryd â dyletswyddau eraill yn unol â chais y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth
Dyddiad cau: 06/06/2024