Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru - Tannwydd i'r Dychymyg

Teitl y Rôl: Comisiynwyr Diogelwch – Sero Awr

Ystod Cyflog: £12 yr awr

Dyddiad Cau: 13 Chwefror 2025

Dyddiad Cyfweld: 26 a 27 Chwefror 2025
 

Amdanom ni/Ein Hadran:

  • Mae'r tîm diogelwch ar y safle 24/7 365 diwrnod y flwyddyn gan gadw ein safle 7.5 erw, staff, sefydliadau preswyl ac ymwelwyr yn ddiogel.
  • Mae’r tim yn darparu gweithrediad cyflym yng nghanolfan celfyddydau Genedlaethol Cymru.
  • Cyrhaeddodd ein tîm diogelwch rownd derfynol gwobrau rhagoriaeth y diwydiant Tân a Diogelwch 2022 yn y categori Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer ein partneriaeth â Tiger Bay security, asiantaeth Ddiogelwch leol.


Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

  • Rôl y Comisiwnydd yw i fod yn warchodwr diogelwch ar gyfer y safle wrth ddarparu swyddogaeth gwarchod i bobl mewn ffordd sy’n gystal a gwerthoedd a phileri Canolfan Mileniwm Cymru.
  • Mae Comisiynwyr yn darparu presenoldeb diogelwch gwelededd uchel, yn ogystal â gweithio y tu ôl i'r llenni i fonitro teledu cylch cyfyng, a'n systemau diogelwch bywyd yn ogystal â rheoli mynediad.
  • Byddwch yn ymuno â thîm sy'n darparu diogelwch 24/7 i'r safle.
  • Byddwch yn cyfuno rôl gwarchodwr diogelwch sy'n patrolio â rôl gweithredwr ystafell Reoli.
  • Gan ymateb i'r Rheolwr Gweithrediadau Diogelwch y byddwch yn eu cefnogi wrth yrru ein harferion a'n systemau diogelwch tuag at welliant parhaus.

Mae’n bosib y bydd angen gwiriad DBS ar gyfer eich rôl.

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • Cyflogwr cyflog byw go iawn
  • Hawl i Bensiwn Now
  • Oriau gwaith hyblyg – dewiswch y shifftiau/oriau sy'n gweddu i’ch bywyd personol a'ch ymrwymiadau
  • Mynediad i Linell Gymorth y Theatr, sy’n cynnwys cymorth ar gyfer: lles ac iechyd meddwl, anafiadau, dyled, materion ariannol ac ati
  • Mynediad am ddim i ddysgu Cymraeg ar-lein
  • Cynghreiriaid a chefnogaeth iechyd meddwl
  • Gostyngiad o 20% ym mwytai a chaffis Canolfan Mileniwm Cymru
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.
 

Dyddiad cau: 13/02/2025