Mae Gwobrau C&B Cymru yn bodoli i annog, cydnabod a dathlu partneriaethau rhagorol rhwng busnes a’r celfyddydau ar hyd a lled Cymru. Yn ddigwyddiad o ansawdd a phroffil uchel, cynhelir y 29fed seremoni yng Nghaerdydd yn Haf 2024. Mae C&B Cymru yn dymuno comisiynu deg gwobr a fydd yn cael eu cyflwyno i enillwyr y categorïau.

Rhoddir ffi hollgynhwysol o £3,000 + TAW am y comisiwn yma. Bydd y ffi yn talu am yr holl gostau dylunio, creu, pecynnu a chludo.              

Rhaid i gynigion gael eu cyflwyno yn ysgrifenedig, gan gynnwys darlun(iau) o’r gwobr, dim hwyrach na dydd Gwener 1 Rhagfyr.

Dyddiad cau: 01/12/2023