Yn galw Pobl Greadigol ac Artistiaid - darganfyddwch bopeth am Gelfyddydau Ymdrochol trwy fis Medi a mis Hydref.
Mae Celfyddydau Ymdrochol, y rhaglen dair blynedd ledled y DU sy'n cefnogi artistiaid i greu a rhannu celfyddydau ymdrochol - yn lansio gyda Dyddiau Ysbrydoliaeth am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy a Gweminarau Cyllid am ddim i artistiaid a phobl greadigol.
Dros y tair blynedd nesaf bydd Celfyddydau Ymdrochol yn dyfarnu £3.6 miliwn mewn cyllid grant i artistiaid sy'n byw yn y DU; bydd y cyntaf o dri rownd o gyllid yn agor ym mis Hydref 2024.
Mae'r gyfres yma o Weminarau Gwybodaeth am ddim yn anelu at helpu artistiaid a phobl greadigol datblygol i benderfynu pa un o'r cronfeydd sydd ar gael y gallent wneud cais amdani, i gwrdd â'r tîm ac i ofyn unrhyw gwestiynau.
Pa gyllid sydd ar gael?
Bydd Celfyddydau Ymdrochol yn dyfarnu £3.6 miliwn mewn cyllid grant i artistiaid sy’n byw yn y DU rhwng 2024 a 2027, gyda'r cyntaf o dri rownd o gyllid yn agor ym mis Hydref 2024.
Gallwch chi gofrestru i gael diweddariadau am y galwadau cyllid ac ymuno â'r rhestr bostio yma, neu gallwch chi wneud hynny yn un o'r Gweminarau Cyllid.
Rydyn ni’n cynnal cyfres o Weminarau Gwybodaeth i helpu ymgeiswyr posibl i benderfynu pa un o'r cronfeydd y gallent wneud cais amdani, i gwrdd â'r tîm ac i ofyn unrhyw gwestiynau.
Gweminarau
Dewch i gwrdd â'r tîm a dysgu am y tri math o gyllid a fydd yn agor ar gyfer ceisiadau yn fuan:
Archwilio – grant o £5,000
Arbrofi – grant o £20,000
Estyn – grant o £50,000
Mae'r sesiynau byr ar-lein yma ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am unrhyw un o'r cyfleoedd, ac maen nhw wedi'u bwriadu i'ch helpu i benderfynu pa un o'n cronfeydd y gallech chi wneud cais amdano, cwrdd â'n tîm a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Dyddiadau
Dydd Mercher 9 Hydref 1–2pm, cofrestrwch yma (bydd y weminar yma yn cynnwys cyfieithiad BSL)
Dydd Mawrth 15 Hydref 5–6pm, cofrestrwch yma (bydd y sesiwn yma yn cael ei sain ddisgrifio)
Dydd Mercher 30 Hydref 11am–12pm, cofrestrwch yma (sesiwn galw heibio i ofyn am hygyrchedd), ni fydd yn cael ei recordio
Methu dod i sesiwn fyw? Bydd recordiadau ar gael ar ein gwefan yn fuan ar ôl pob digwyddiad.