Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer trydedd Gŵyl Ffilm Gomedi Fer Pigeon Laughs.

Cynhelir yr ŵyl yng Nghaerdydd rhwng 27 a 28 Mawrth lle bydd dangosiadau o ffilmiau byrion comedi, digwyddiad rhwydweithio a digwyddiadau a gweithdai gan siaradwyr gwadd o fewn y diwydiant yn digwydd.

Gall gwneuthurwyr ffilm Cymreig a gwneuthurwyr ffilm sy’n byw yng Nghymru wneud cais i'r categori Gwnaed Yng Nghymru.

Eleni cefnogir yr ŵyl gan British Comedy Guide gyda chyfleoedd cyffrous a gwobrau i wneuthurwyr ffilm sydd eisoes wedi ennill gwobrau.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais cynnar iawn yw Medi 1af.



 

Dyddiad cau: 05/03/2025