Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn chwilio am berfformwyr amatur Cymraeg eu hiaith rhwng 18-25 oed ar gyfer eu cynhyrchiad newydd o Gwlad Gwlad.

Mae Gwlad Gwlad yn archwilio’r straeon go iawn a’r cysylltiadau personol ag anthem genedlaethol Cymru. 

Ysgrifennwyd y darn gan y dramodydd Christopher Harris, gyda cherddoriaeth gan Stacey Blythe, a bydd yn cael ei gyfarwyddo gan Harvey Evans. 

Bydd Gwlad Gwlad yn cael ei berfformio yn Yma, Pontypridd ym mis Awst yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd dwy sesiwn ymchwil a datblygu ar 8 a 22 Mai. Bydd ymarferion yn cychwyn ar 15 Gorffennaf a bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio ar benwythnos agoriadol yr Eisteddfod - 4 a 5 Awst.

Cyfle di-dâl yw hwn, yn rhan o raglen Lansiad Awen o gyfleoedd perfformio a chymorth celfyddydol i berfformwyr ifanc sy’n datblygu tuag at yrfa actio broffesiynol. 

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Pedro Gardiner, Cynhyrchydd Creadigol ar 07543 311742 neu anfonwch e-bost at pedro.gardiner@awen-wales.com.

Dyddiad cau: 12 Ebrill 2024.

Ariennir y prosiect hwn diolch i Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU mewn partneriaeth â Chynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr. 

 

 

Dyddiad cau: 12/04/2024