Rydym yn chwilio am aelodau annibynnol newydd i ymuno â'n Pwyllgorau.
Rydym yn parhau’n ymroddedig i’n cenhadaeth o hyrwyddo celfyddydau a threftadaeth ddiwylliannol Cymru. Rydym yn cydnabod grym trawsnewidiol y celfyddydau wrth gyfoethogi bywyd pobl, ysgogi’r economi a chreu cymunedau cydlynol. Rydym yn benderfynol y bydd y buddion yma’n cyrraedd pob cornel o’r wlad.
Fel aelod annibynnol o’r pwyllgor, byddwch yn rhan o’n genhadaeth i hyrwyddo celfyddydau Cymru.
Yma rydym yn rhoi disgrifiad o’r gwaith a blas o beth byddwch yn ei wneud.