Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cydweithio â Chyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Yr Alban Greadigol a Sefydliad Ffilm Prydain i ddatblygu cynllun cerdyn hygyrchedd newydd ledled Prydain ar gyfer aelodau anabl o'r gynulleidfa. Ariennir y swydd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a'i chynnwys gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae'n swydd newydd a chyffrous i gydarwain cam cyntaf y gwaith ymchwil a datblygu i lywio comisiynu’r cynllun ledled Prydain. Bydd yn adeiladu ar waith rhaglen Hynt a sefydlwyd eisoes gan Gyngor Celfyddydau Cymru: hynt.
Uchelgais y cynllun yw:
- dileu'r rhwystrau sy'n wynebu cynulleidfaoedd anabl, B/byddar a niwroamrywiol wrth archebu tocynnau ar-lein ac all-lein ar gyfer digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol
- rhoi cymorth i leoliadau a sefydliadau diwylliannol sy'n cymryd rhan i ddatblygu mannau a rhaglenni hygyrch a chynhwysol ar gyfer aelodau o'r gynulleidfa
Amdanoch chi
Byddwch yn rheolwr prosiect medrus a bydd eich gwaith yn y swydd yn cynnwys bod â chyfrifoldeb ar y cyd dros reoli prosiectau'r cynllun newydd, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni'n brydlon ac yn ôl y gyllideb. Byddwch yn ymgynghori â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys pobl anabl, darparwyr systemau swyddfa docynnau, lleoliadau a chynrychiolwyr o gyrff y diwydiant.
Yn ddelfrydol, byddwch yn gallu dechrau yn y swydd ar unwaith yn amodol ar gyflawni gwiriadau cyn cyflogi.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais mewn fformat Word a Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal i AD@celf.cymru
Os hoffech gyflwyno cais mewn fformat arall, cysylltwch ag Adnoddau Dynol.
Rydym yn gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg ac mae rhuglder yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd. Rydym yn cefnogi'r holl staff i ddatblygu a gwella eu sgiliau Cymraeg.
Dyddiad cau: 12:00pm (canol dydd), dydd Llun, 10 Ionawr 2022
Cyfweliadau (ar-lein): Dydd Mercher, 19 Ionawr 2022
Dyddiad dechrau: ar unwaith (yn amodol ar wiriadau cyn cyflogi)
Mae ein manteision yn cynnwys oriau/patrwm gwaith hyblyg a gwyliau hael.
Bydd y Cyngor yn darparu cymorth i sicrhau eich bod yn teimlo'n gyfforddus wrth ddechrau gweithio gyda ni. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd ar gael yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os oes angen.
35 awr yr wythnos
Contract cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2022 (gyda’r posibiliad o estyniad gan ddibynnu ar arian pellach)
Cyflog: £43,604 y flwyddyn
Lleoliad: mewn un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru yng Nghaerdydd, Bae Colwyn neu Gaerfyrddin. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gartref.