Gweithio gyda Rubicon: Rheolwr Gweithrediadau

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan ganolog yn nyfodol ein sefydliad ac i arwain y ffordd mewn sicrhau ansawdd gyffredinol ein rhaglen gyfranogol eang.

Teitl Swydd: Rheolwr Gweithrediadau

Amser Llawn 

Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd

Cyflog: £32,000 y flwyddyn

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan ganolog yn nyfodol ein sefydliad ac i arwain y ffordd mewn sicrhau ansawdd gyffredinol ein rhaglen gyfranogol eang.  

Mae’r Rheolwr Gweithrediadau yn gyfrifol am reoli gweithrediadau dyddiol cyffredinol Rubicon Dance, gan gynnwys dadansoddi a gwella systemau a dulliau gweithredu er mwyn gwella ansawdd ac effeithlonrwydd. 

Sut i Wneud Cais:

I wneud cais, anfonwch CV a llythyr cais at simon@rubicondance.co.uk

Dyddiad cau: 12 Chwefror 2025

Cyfweliadau: wythnos yn cychwyn 24 Chwefror 2025

Yn eich llythyr cais dylech esbonio pam rydych yn meddwl eich bod yn addas ar gyfer y swydd a dangos eich profiad a sgiliau yn ôl Manyleb y Person yn adran Disgrifiad y Swydd. Gallwch ei gyflwyno’n ysgrifenedig, mewn fideo neu ffeil sain, neu unrhyw fodd arall sy’n hygyrch i chi.

Ni ddylai llythyrau ysgrifenedig fod mwy na dwy dudalen.
Ni ddylai ceisiadau fideo/sain fod mwy na 10 munud.
Os hoffech wneud cais mewn ffurf arall, cysylltwch â ni.

Mae Rubicon Dance yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac wedi ymrwymo i wella ei amrywiaeth er mwyn adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.  Byddem yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir ac yn enwedig yn annog unigolion gyda phrofiadau a safbwyntiau amrywiol i wneud cais. 
 

Dyddiad cau: 12/02/2025