Disgrifiad Cyffredinol

Mae Gwasanaethau Theatraidd Caerdydd (CTS) yn is-gwmni sydd yn eiddo llwyr i Opera Cenedlaethol Cymru. Mae’r adran adeiladu yn cynnwys yr adran Gwaith Coed, yr adran Weldio a Gwneuthuro a'r Swyddfa Luniadu.

Prif Ddiben y Swydd:

Gweithio â Thîm Rheoli CTS a'r staff gweithdy i sicrhau bod prosiectau’r adran adeiladu yn rhedeg yn llyfn ac effeithlon. Bydd disgwyl i chi weithio'n agos gyda’r holl staff yn y gweithdy i sicrhau bod golygfeydd yn cael eu cynhyrchu mewn modd effeithlon. Bydd disgwyl i chi gysylltu â’r tîm Celf Golygfeydd er mwyn sicrhau’r defnydd mwyaf effeithiol o’r adnoddau sydd ar gael. Rhagdybir y bydd deiliad y swydd yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser ar y llawr gwaith, yn gwneud ac yn goruchwylio’r gwaith adeiladu a gosod golygfeydd. Bydd disgwyl i chi oruchwylio pob prosiect cyfredol ac arwain ar rai ochr yn ochr â’r Pennaeth Adeiladu a’r Cydlynydd Prosiect a fyddai’n arwain dros eraill.

Cwmpas:

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyflawni ei ddyletswyddau ym mhob un o gyfleusterau CTS, WNO, a lleoliadau allanol o bryd i’w gilydd yn ôl natur y gwaith

Dyddiad cau: 05/04/2024