Dyddiad Cau: Dydd Mercher 1 Mai, 9am
Cyfweliadau: Dydd Mercher 15 Mai

Adran: Rhaglen a Marchnata

Yn adrodd i: Cyd-gyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Artistig

Cyflog: £34,000 per annum

Oriau: 40 awr pro rata

Contract: llawn amser, parhaol

Yn adrodd yn uniongyrchol i’r swydd: Swyddog Cyfathrebu Digidol; Swyddog Datblygu Cynulleidfaoedd – contract cyfnod penodol (swydd wag), gwirfoddolwyr ac interniaid yn ôl yr angen.

Diben y Swydd:

Mae’r Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu yn gweithio gyda’r tîm i lunio a chyflwyno strategaethau marchnata a chyfathrebu sy’n ehangu amcanion datblygu cynulleidfaoedd Chapter. Byddwch chi’n cydweithio’n agos gyda thîm y rhaglen, a gyda thimau ar draws y sefydliad, gan gynnwys technoleg gwybodaeth, masnachu, ymgysylltu â’r gymuned, gwasanaethau ymwelwyr, codi arian, a gyda’n cymuned greadigol.

Bydd gennych gyfrifoldeb strategol dros reoli ymgyrchoedd, datblygu cynulleidfaoedd, y wasg, cysylltiadau cyhoeddus a hysbysebu, er mwyn adeiladu proffil, cynyddu ymweliadau, cyrraedd targedau ariannol, a sicrhau mynediad ar gyfer y gynulleidfa ehangaf bosib.

Byddwch yn rhan o dîm bach sy’n cynnal ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu uchelgeisiol, ac sy’n hanfodol i’n cysylltu ni â chynulleidfaoedd drwy gynnwys diddorol sy’n cyfleu ein neges graidd. Drwy waith cyfathrebu arloesol, byddwch yn helpu i wella ein proffil fel sefydliad diwylliannol blaenllaw yng Nghymru ac yng ngwledydd Prydain.

Dyddiad cau: 01/05/2024