Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Cytundeb cyfnod penodol, 12 mis

Gradd B: Cyflog cychwynnol o £26,277

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Am y rôl 

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn chwilio am rywun i ymuno a’r tîm Prosesu Grantiau fel Cynorthwyydd Grantiau. Mae’r tîm Prosesu Grantiau yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i weinyddu a chydlynu’r gwaith o gyflawni gweithgarwch ehangach tîm Ariannu’r Celfyddydau.

Mae Cynorthwywyr Grantiau yn cynnal y wybodaeth sydd yn y systemau rheoli grantiau’r Cyngor Celfyddydau. Mae hyn yn cynnwys:

  • cynorthwyo gyda sefydlu systemau i sicrhau bod cynlluniau ariannu ar gael i ymgeiswyr;
  • prosesu grantiau drwy’r system grantiau am oes y grant;
  • sicrhau bod y data sydd ar y system grantiau yn gywir;
  • cynorthwyo a chynghori ymgeiswyr a staff ar brosesau sy’n ymwneud â systemau a chanllawiau ariannu;
  • adolygu cyllidebau ceisiadau; a 
  • sicrhau bod ceisiadau yn cadw at reolaethau llywodraethu’r Cyngor Celfyddydau. 

Amdanoch chi

Os ydych chi’n dda yn gweithio gydag amrywiaeth o wahanol bobl ac yn arbennig o gyfforddus yn gweithio gyda ffigurau, gallai’r rôl hon fod ar eich cyfer chi. Mae’r rôl hon ar gyfer rhywun sy’n hoffi’r cymysgedd o ddadansoddiad rhifiadol a gweinyddol ac sy’n gallu cyfathrebu gwybodaeth ariannol a gwybodaeth arall yn glir i eraill.  

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig. 

Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.

Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion. 

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau:                         12:00pm (canol dydd) Dydd Mercher 09 Hydref 2024

Cyfweliadau:                         Dydd Mawrth 22 Hydref 2024

Gweithio hyblyg

Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd. 

Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig. 
 

Dogfen13.09.2024

Cynorthwyydd Grantiau: Pecyn Swydd