Mae Cynorthwy-ydd y Wasg a Chynnwys yn gweithredu ymgyrchoedd marchnata sy’n cael eu cefnogi gan y rheolwr llinell. Mae’n creu cynnwys sy’n barod i’r wasg ar gyfer y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys blogiau, ffotograffau a fideo. Mae'r rôl yma’n rhan o dîm clos sydd â’i ffocws ar werthiant, gyda phwyslais ar sicrhau’r incwm gorau posib o sioeau drwy weithredu ymgyrchoedd. Mae’n gweithio fel rhan o'r Tîm Marchnata i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd targedau, yn denu cymaint â phosib o gynulleidfa, yn denu ymwelwyr newydd, yn cynnal lefelau uchel o incwm a enillir ac yn cael cydnabyddiaeth brand ardderchog. Mae hefyd yn cefnogi gweithgarwch ehangach ein gwaith ni (gan gynnwys Ymgysylltu Creadigol, Bryn Williams a Cherddoriaeth Theatr Clwyd) i godi proffil y sefydliad.
Math o Gontract - Parhaol
Teulu - Cymdeithasau
Arbenigedd y tîm -Marchnata
Oriau - 37 yr wythnos
Cyflog cychwynnol - £23,407
Gradd cyflog - OP2
Yn atebol i - Cyfarwyddwr Cynulleidfaoedd a Mewnwelediad