Mae Cyngor Sir Powys wedi sicrhau arian grant oddi wrth y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac rydym ni am geisio comisiynu gwasanaeth gan arbenigwr allanol i gyflenwi gwelliannau i’n gwefan bwrpasol ar gyfer Gwasanaethau Diwylliannol, StoriPowys.

Gallwch gael briff cyflawn y prosiect oddi wrth celf@powys.gov.uk 

Yn 2023, gwnaeth Gwasanaethau Diwylliannol ddatblygu Strategaeth y Celfyddydau sy’n llywio sut y bydd y cyngor yn parhau â chefnogaeth strategol i’r celfyddydau a diwylliant ledled y sir. Fel rhan o weithredu’r strategaeth hon, rydym am ehangu cylch gwaith a chyrhaeddiad gwefan StoriPowys, gan gadw’r cynnwys presennol wrth ddatblygu proffil a chynrychiolaeth ar gyfer sector bywiog creadigol a’r celfyddydau ym Mhowys.  

Rydym am geisio ail-ddylunio rhestr ddigwyddiadau Beth Sy’n Digwydd ym Mhowys StoriPowys i ymgorffori amrywiaeth o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol o sefydliadau allanol, ochr yn ochr â rhestrau cyfredol oddi wrth Lyfrgelloedd, Amgueddfeydd ac Archifau Cyngor Sir Powys. Er mwyn adlewyrchu cylch gwaith ehangach y wefan, rydym hefyd am geisio comisiynu newidiadau i dudalen hafan y wefan a gwe-lywio o’r fan honno. Bydd y gwaith a gomisiynwn yn ein galluogi ni i adlewyrchu a gwasanaethu sector celfyddydau Powys yn well, ochr yn ochr â Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd ac Archifau..  

Amserlen:

Dyddiad cau cyflwyno cynnig 8am, 7 Mai 2024 

Dyddiad targed ar gyfer comisiynu datblygu’r wefan 8 Mai 2024 

Dyddiad targed cwblhau 31 Hydref 2024 

Cyllideb y Prosiect:

£20,000 (ac eithrio TAW)  

Dyddiad cau: 07/05/2024