Yn ganolog i ddatblygiad Bae Copr Abertawe, mae Arena Abertawe yn arena amlbwrpas nodedig o gapasiti 3,500 a agorodd ei drysau ym mis Mawrth 2022. Mae'n gartref i rai o'r enwau mwyaf adnabyddus ym myd cerddoriaeth fyw, comedi a theatr, ac mae'r lleoliad cwbl fodiwlaidd hefyd wedi cyflwyno cynadleddau, arddangosfeydd, seremonïau graddio, gwleddoedd a chwaraeon byw yn llwyddiannus. Gyda thîm medrus ac uchelgeisiol yn ei le, ochr yn ochr â chyfleusterau o'r radd flaenaf - mae cwmpas diderfyn o ran yr adloniant a'r profiadau o'r radd flaenaf y gall Arena Abertawe eu darparu i gleientiaid a chynulleidfaoedd ledled De Cymru a thu hwnt.

Eisoes yn rhan greiddiol o dirwedd ddiwylliannol Cymru – wrth i’r lleoliad symud i mewn i’w bedwaredd flwyddyn o weithredu mae cyfle i’r arweinydd cywir gael effaith gref ar etifeddiaeth hirdymor y lleoliad a’i enw da a’i lwyddiant o fewn y diwydiant yn ehangach. Gyda chynlluniau adfywio parhaus ar gyfer y ddinas, mae Arena Abertawe yn rhan o gymuned fusnes uchelgeisiol a balch sydd mewn sefyllfa i weld cynnydd mewn twf a chyfleoedd dros y blynyddoedd i ddod.

Mae gan Abertawe sîn gerddoriaeth llawr gwlad drawiadol sy'n cael ei hyrwyddo gan unigolion angerddol a chreadigol y tu mewn a'r tu allan i'r arena. Mae Arena Abertawe yn bartner balch i Music Venue Trust ac yn cefnogi GMVs lleol ac artistiaid yn frwd trwy gydweithio, ariannu a hyfforddiant.
 

Dyddiad cau: 31/01/2025