Rydym am weithio gyda dylunydd graffeg o Gaerdydd sydd ar ddechrau i ganol ei yrfa i greu cyfres o ddeunyddiau graffeg dwyieithog i’w defnyddio ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ein sesiynau cwrdd a chyfarch artistiaid: Cwrdd yn y Ddinas.

Ynglŷn â Cwrdd yn y Ddinas.

Mae Cwrdd yn y Ddinas yn ddigwyddiadau agored mewn gofodau dros dro i artistiaid ar ddechrau eu gyrfa gwrdd a chysylltu â’i gilydd, a gyda National Theatre Wales.

Bydd y digwyddiadau yn cynnwys cerddoriaeth/adloniant â ffocws isel, bar di-alcohol, gweithgareddau amrywiol, sgyrsiau wedi'u cynnal, meic agored a chyfleoedd i bobl siarad. Maent yn rhan o uchelgais trosfwaol i greu cyfleoedd.

Mae’r digwyddiadau hyn yn ysbrydoledig ac yn gysylltiol, ac yn digwydd mewn mannau annodweddiadol ar draws Caerdydd, fel siopau cornel, caffis cyffredin a siopau barbwr.

Mwy o wybodaeth ar ein gwefan.

Dyddiad cau: 28/03/2024