Classical:NEXT yw’r hwb rhwydweithio a chyfnewid byd-eang sy’n benodol ar gyfer cerddoriaeth glasurol a chelf, i bob gweithiwr proffesiynol – yn artistiaid, rheolwyr, cyflwynwyr, cerddorfeydd, labeli, addysgwyr, y wasg, y cyfryngau, cyhoeddwyr a mwy. Mae’r digwyddiad yn cynnwys cynhadledd ryngweithiol, cyflwyniadau i brosiectau, cyngherddau arddangos, expo, a rhwydweithio. Trwy gymryd rhan yn Classical:NEXT, byddwch yn ymuno â mwy na 1,000 o weithwyr proffesiynol o dros 45 gwlad ledled y byd.

Cynhelir y digwyddiad eleni yn Berlin rhwng 13 ac 16 Mai, ac mae Tŷ Cerdd (gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) yn cynnig 5 bwrsariaeth o £1000 i gefnogi cynrychiolwyr i’w fynychu.

 

Dyddiad cau: 09/04/2024