Swyddog Comisiynu

Ein cenhadaeth yw comisiynu gwaith eithriadol gan artistiaid anabl a fydd yn newid ac yn herio’r byd, hyd nes y bydd y sector diwylliannol cyfan yn gwneud hynny.

Rydym yn awyddus i greu byd lle mae artistiaid anabl yn gydradd drwy’r sector diwylliannol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ein nod yw cefnogi ystod o syniadau artistig – mewn perthynas â ffurf gelfyddydol, amrywiaeth, graddfa, a lleoliad.

Rydym yn cynnig gwahanol fathau o gyfleoedd comisiynu drwy gydol y flwyddyn – o wobrau micro sy’n galluogi artistiaid i arbrofi gyda syniadau newydd, i wobrau agored ar gyfer datblygu gwaith ar raddfa fwy. Trwy arddangos a chefnogi gwaith o ystod ac ansawdd anhygoel gan artistiaid anabl, rydym yn awyddus i agor drysau fel bod modd i’n hartistiaid weithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Cewch fwy o fanylion yma am sut a pham rydym yn gwneud hyn.

Mae ein cyfleoedd wedi eu hanelu at artistiaid anabl a/neu gwmnïau dan arweiniad anabledd a chanddynt ymarfer proffesiynol, ar wahanol gamau yn eu datblygiad.

Ffeithiau allweddol am y swydd

Teit y swydd: Swyddog Comisiynu

Yn atebol i’r: Rheolwr Rhaglen: COMISIYNU

Yn gyfrifol am: Llawryddion ac Artistiaid

Math o Gytundeb: Cytundeb 12-mis, tymor penodol, gyda’r posibilrwydd o estyniad

Oriau gwaith: 0.8 FTE, sy’n gyfystyr â 4 diwrnod neu 32 awr. Mae gan Unlimited ddiwylliant gwaith hynod addasadwy, gydag oriau gwaith hyblyg sy’n cynnwys peth teithio a gweithio ambell benwythnos/fin nos pan fo angen. Rydym yn gweithredu polisi o gynnig amser rhydd (TOIL) i ddigolledu staff am weithio oriau ychwanegol.

Cyflog: £29,757 y flwyddyn, pro rata.

Dyddiad cau: 02/05/2024