Disgrifiad swydd llawn yma.

Mae Elusen Aloud yn edrych am Reolwr Prosiect i weithio ar draws Gogledd Cymru ac yn ehangach  i’n cynorthwyo i gynnal ein gweithgareddau cydganu i bobl ifanc yn y rhanbarth. Mae’n hanfodol gallu medru’r Gymraeg ar gyfer y rôl hon.

Gallai’r rôl hon fod yn gyfle rhannu swydd rhwng dau berson yn gweithio 15 awr yr wythnos yr un yn rhannu’r llwyth gwaith. Bydd gofyn i’r ddau berson syn cwmpasu’r swydd cydweithio a throsglwyddo’n briodol. Os bydd un ymgeisydd yn cael ei recriwtio, bydd unrhyw ymgeiswyr ar y rhestr fer yn y dyfodol yn cael cyfle i gwrdd â deiliad presennol y swydd cyn cyfweliad ffurfiol.

Gan gyfuno sgiliau cyfathrebu rhagorol â dealltwriaeth o weithio gyda phobl ifanc, mae ein Rheolwyr Prosiect yn gyfrifol am sicrhau bod gwaith Elusen Aloud yn rhedeg yn llyfn mewn cymunedau ledled Cymru. Gan weithio i gynnal a datblygu profiadau cydganu rheolaidd o ansawdd uchel yng Ngogledd Cymru a thu hwnt, bydd Rheolwr y Prosiect: Gogledd ac Only Kids Aloud yn datblygu ac yn cynnal ein gwaith uchel ei barch gyda phobl ifanc dros Gymru.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus yn bodloni’r gofynion canlynol:

  • Yn meddu ar ddealltwriaeth o sut gall canu greu cyfleodd a all newid bywydau pobl ifanc, ac angerdd at hynny
  • Deall rhanbarth Gogledd Cymru a’r cyfleoedd posibl sydd yno
  • Profiad o reoli prosiectau a gweithio gyda phobl ifanc mewn cymunedau
  • Profiad llwyddiannus blaenorol o ddatblygu perthnasoedd a phartneriaethau
  • Yn gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal â chyfrannu’n gadarnhaol at y tîm yn gyfan
  • Yn gallu gweld y darlun ehangach o waith yr elusen ar draws Cymru, ynghyd â sicrhau bod y cynlluniau a’r polisïau sy’n cael eu datblygu yn berthnasol i ranbarth Gogledd Cymru a thu hwnt
  • Derbyn gwiriad manylach y DBS

I ymgeisio: Anfonwch eich CV a dim mwy na dwy dudalen o lythyr eglurhaol yn nodi sut rydych yn ateb gofynion y rôl i recruitment@thealoudcharity.com.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw 3pm ar ddydd Llun 15 Ionawr 2024. Gofynnir i ymgeiswyr hefyd gwblhau ffurflen cydraddoldeb, a fydd yn cael ei dynnu ffwrdd o’r ffurflen gais wedi’i dderbyn a ni chaiff hwn effaith ar ein penderfyniad.

Caiff y cyfweliadau eu cynnal ar ddydd Mawrth 30 Ionawr 2024 mewn lleoliad yng Ngogledd Cymru neu dros Teams.

 

Dyddiad cau: 15/01/2024