Rhan-amser (18.5 awr yr wythnos)

Cytundeb cyfnod penodol (12 mis)

Gradd E: Cyflog cychwynnol o £26,803

(yn gyfatebol i £53,606 y flwyddyn yn llawn amser)

Lleoliad: Fel arfer gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Am y Rheolwyr Portffolio

Mae’r Rheolwyr Portffolio yn uwch weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau sy’n cyfuno eu harbenigedd celfyddydol sylweddol a’u gwybodaeth fusnes gref i helpu i gyflawni’n ymarferol ystod o fentrau sy’n gysylltiedig â flaenoriaethau Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae Rheolwyr Portffolio hefyd yn rheolwyr llinell i’r Swyddogion Datblygu.

Y cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â’r rôl hon yw:

“Yn amrywiol ac yn gofyn llawer ond byth yn ddiflas, mae rôl y Rheolwr Portffolio yn gyfle gwych i weithio gyda chydweithwyr yn genedlaethol ar draws portffolio o feysydd strategol. Os oes gennych chi syniadau a gyriant eisiau gwneud gwahaniaeth i’r celfyddydau yng Nghymru, mae hwn yn amser cyffroes i ymuno â’n tîm.” Sally, Rheolwr Portffolio

Amdanoch chi

Os ydych chi’n rhywun sydd â phrofiad blaenorol o weithio yn y celfyddydau neu gymunedau ac sy’n gallu ysbrydoli hyder yn y sector, gallai’r rôl hon fod i chi. Bydd angen i chi fod yn ddatryswr problemau ac yn feddyliwr creadigol, a hefyd gwybod sut i fod yn gynhyrchiol, yn drefnus a sut i gyflawni pethau. Gallwn ddysgu’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch chi os ydych chi’n chwilfrydig ac yn ddigon gyredig i fod yn rhan o’n tîm.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn y Gymraeg a Saesneg. Mae sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol a’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a Saesneg – er mwyn cynnal perthnasoedd effeithiol ar lefelau uwch yn fewnol ac yn allanol – yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.

Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal yn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau:                                     5pm ar Ddydd Gwener 5 Gorffennaf 2024

Cyfweliadau (mewn person):         Dydd Gwener 19 Gorffennaf 2024

Gweithio hyblyg

Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.

Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.

Dogfen14.06.2024

Pecyn Ymgeisio 2024 - Rheolwr Portfolio