Bydd y Rheolwr Gweithdy yn gweithio fel rhan o’r Timau Creu ac, o dan oruchwyliaeth y Pennaeth Cynhyrchu, yn rheoli Gweithdy Theatr Clwyd er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i gynyrchiadau Theatr Clwyd.
- Math o Gontract - Parhaol
- Teulu - Creu Theatr
- Arbenigedd y tîm - Gweithdy adeiladu
- Oriau - 37 awr yr wythnos
- Cyflog cychwynnol - £31,000
- Gradd cyflog - M1
- Yn atebol i - Pennaeth Cynhyrchu
- Yn gyfrifol am - Dirprwy Reolwr Gweithdy, Cynorthwywyr Gweithdy
Bydd y gwaith o lunio rhestr fer o'r ceisiadau a’r cyfweliadau ar gyfer y rôl yn cael eu cynnal tra bydd yr hysbyseb yn fyw; bydd yr hysbyseb yn cau ar ôl dod o hyd i'r ymgeisydd (ymgeiswyr) llwyddiannus. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl.
Dyddiad cau: 26/04/2024