Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol 2019-20 ar gyfer ei raglen arloesol Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau. Mae'r adroddiad yn amlinellu uchafbwyntiau'r rhaglen, yn rhoi llais i ddisgyblion, athrawon ac artistiaid, ac yn archwilio'r gwahaniaethau y mae'r rhaglen hon yn parhau i'w gwneud ar draws tirwedd addysg a chelfyddydau Cymru.

Mae rhai ffigurau allweddol o bum mlynedd gyntaf y rhaglen yn cynnwys:

1240 o ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth wedi ymgysylltu â'r rhaglen (83% o ysgolion yng Nghymru);

Dros 134,000 o gyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan yn y rhaglen;

Dros 4,600 o gyfleoedd i athrawon ymgysylltu â dysgu proffesiynol trwy'r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol a gweithgaredd Rhwydweithiau Celfyddydau ac Addysg Ranbarthol.

Yn ogystal â dogfennu llwyddiannau prif feysydd y rhaglen yn ystod blwyddyn academaidd 2019/20 trwy astudiaethau achos, dyfyniadau a'r cyfryngau, mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at sut y cafodd y rhaglen ei haddasu yn ystod camau cynnar y pandemig coronafirws i barhau i feithrin creadigrwydd dysgwyr, athrawon a gweithwyr proffesiynol creadigol.

Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams:

Mae llwyddiannau'r rhaglen bum mlynedd wreiddiol yn sylweddol. Wedi'i sefydlu ar bartneriaeth waith agos rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, mae Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau wedi trawsnewid dysgu ac addysgu yng Nghymru trwy roi'r celfyddydau a chreadigrwydd wrth galon addysg, wedi cefnogi athrawon i archwilio dulliau arloesol o addysgu a galluogi dysgwyr i dyfu fel dysgwyr annibynnol, creadigol sy'n ymgysylltu mwy, yn fwy hyderus ac yn gyflawnwyr uwch.

Nick Capaldi, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru:

Mae'r rhaglen Dysgu greadigol yn parhau i gael ei chydnabod yn rhyngwladol nid yn unig am ei llwyddiant yn cefnogi ysgolion wrth iddynt baratoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru 2022 ond hefyd y bartneriaeth gref rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Er gwaethaf yr heriau a gyflwynwyd yn sgil coronafirws, mae'r rhaglen wedi parhau i adlewyrchu ac ymateb i anghenion ysgolion ledled Cymru gan sicrhau bod creadigrwydd a phrofiadau cyfoethog yn y celfyddydau yn cael eu hymgorffori mewn cyfleoedd dysgu yng Nghymru.

Mae llwyddiannau’r rhaglen yn y pum mlynedd gyntaf wedi bod yn rhyfeddol ac mae tystiolaeth yn parhau i ddangos bod yr effaith wedi bod yn drawsnewidiol i ddysgwyr, athrawon ac ysgolion, ac yn wir i artistiaid sy'n ymwneud â'r prosiectau.

DIWEDD                                                         11 Mai 2021

Nodiadau i olygyddion:

Gellir cyrchu mwy o wybodaeth am y rhaglen Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau trwy wefan Cyngor Celfyddydau Cymru - https://creativelearning.arts.wales/cy/clta-hafan