Mae Theatr Iolo wedi lansio eu galwad Platfform eilflwydd, yn gwahodd sgrifenwyr a gwneuthurwyr theatr o Gymry ac sydd â’u cartref yng Nghymru i’w hysbrydoli â gwaith newydd i’r llwyfan, wedi’i sgrifennu’n arbennig i bobl ifanc.  

Mae’r cwmni theatr i blant, sydd â’u canolfan yng Nghaerdydd, yn gofyn i sgrifenwyr a gwneuthurwyr theatr gyflwyno eu syniadau ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc o unrhyw oed rhwng teirblwydd ac un mlwydd ar bymtheg.Maen nhw’n awyddus i weld sgriptiau a syniadau’n dod i law yn y Gymraeg, yn Saesneg, yn Iaith Arwyddion Prydain neu unrhyw gyfuniad o’r rhain.  Mae gan y sgrifenwyr ddeufis i ddatblygu eu syniadau cyn dyddiad cau’r cynigion ar 9 Mehefin.

“Cyfle yw Platfform i sgrifenwyr a gwneuthurwyr theatr arbrofi mewn ffyrdd maen nhw efallai heb roi cynnig arnyn nhw o’r blaen. Mae sgrifennu i bobl ifanc yn cynnig posibiliadau creadigol di-ben-draw ac rydym yn edrych ymlaen at weld syniadau’n dod i law sy’n ddrych o amrywiaeth eang cefndiroedd pobl ifanc yng Nghymru, yn ogystal â’u profiadau.” 
 
Lee Lyford  
Cyfarwyddwr Artistig, Theatr Iolo 

Bydd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo, Lee Lyford, yn dewis dau sgrifennwr neu wneuthurwyr theatr i chwilio eu syniadau ymhellach. Cynigir i’r ddau hyd at £2500 i ddatblygu eu syniad, ac at hynny mentora gan Lee Lyford. Yn dilyn y cyfnod cyntaf yma o ddatblygu, cynigir i’r ddau artist ddeuddeng mis eto o gefnogaeth o’r unfath ac arweiniad arbenigol gan Theatr Iolo. Bydd y gefnogaeth yma’n cynnwys cyngor, hyfforddiant a chymorth i wneud ceisiadau am gyllid, cynhyrchu, teithio, cyllidebu a marchnata.

Mae Theatr Iolo yn hyderus y bydd y prosiect yn darganfod gwaith newydd y gellir ei ddatblygu’n gynyrchiadau ar raddfa lawn yn y dyfodol. Mewn blynyddoedd a fu, arweiniodd Platfform at ddatblygu’r darn dawns i’r teulu gan Krystal S. Lowe, Remarkable Rhythm, a The Welsh Dragon Kyle Lima, fydd ar daith yng Nghymru’n ddiweddarach eleni.

Os oes gennych chi syniad at ddrama newydd, anfonwch sgript atom, dyfyniad o sgript newydd neu hedyn cynnig at ddarn wedi’i ddyfeisio drwy anfon ebost at hello@theatriolo.com erbyn dydd Sul 8 Mehefin 2024. Rydym yn croesawu syniadau ar bapur neu ar fideo.

DYDDIADAU ALLWEDDOL

Dyddiad cau cynigion: dydd Sul 9 Mehefin 2024
Cyhoeddi’r dewis artistiaid: dydd Llun 1 Gorffennaf, 2024
Y cyfnod ymchwil a datblygu: rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2024

Dyddiad cau: 09/06/2024