1. Cyflwyniad
Mae Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Sir Powys wedi dethol deg sefydliad i dderbyn £675,000 o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin sy’n canolbwyntio ar gefnogi cadernid, cynaliadwyedd a thrawsnewidiad oddi fewn i’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol ym Mhowys. Daw’r arian â’r sefydliadau ynghyd mewn rhwydwaith dysgu cymheiriaid cydweithredol yn ystod gweddill 2024 i gefnogi’r sefydliadau i gyflenwi eu prosiectau.
Rydym am gomisiynu asiantaeth i ddarparu diwrnod hyfforddi i’r sefydliadau, gan ganolbwyntio ar godi arian a sgiliau datblygu ochr yn ochr â darparu mentora un i un i’r sefydliadau (o leiaf 3 awr i bob sefydliad). Dymunwn redeg y diwrnod hyfforddi wyneb yn wyneb cyn gynted ag sy’n bosibl yn Mis Medi/Hydref.
2. Rheoli
Y cleient ar gyfer y prosiect yw Cyngor Sir Powys.
Caiff y prosiect ei reoli gan Alice Briggs Rheolwr Prosiect – grant celfyddydau y Gronfa Ffyniant Gyffredin
3. Sgiliau
Rhaid i’r arbenigwr allanol gael:
- Profiad ac arbenigedd fel sefydliad cynaliadwyedd, natur a lleihau carbon.
- Hanes cryf o ran darparu hyfforddiant o fewn y diwydiant cynaliadwyedd, gweithrediadau hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol gan ganolbwyntio ar y celfyddydau a'r sector diwylliannol.
4. Dylai arbenigwyr allanol sy’n dymuno cael eu hystyried gyflwyno’r canlynol:
- Dyfynbris am y gwaith.
- Dadansoddiad o’r costau.
- Amlinelliad o sgiliau proffesiynol a phrofiad a ddaw gyda’r arbenigwr allanol.
- Enghreifftiau o waith tebyg yr ymgymerwyd ag e.
- Geirdaon (2).
Dylech anfon ceisiadau i alice.briggs@powys.gov.uk
Erbyn 5yp, 3ydd Gorffennaf 2024
5. Amserlen y Prosiect
Disgwyliwn i'r diwrnod hyfforddi gael ei gyflwyno ym mis Medi neu fis Hydref, gyda'r mentora 1-i-1 yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Tachwedd 2024.
6. Cyllideb y Prosiect
£4000 ac eithrio TAW
7. Meini Prawf Gwerthuso
Caiff y meini prawf canlynol eu defnyddio i werthuso’r cyflwyniadau briff:
- 40% - gwerth ariannol y dyfynbris.
- 60% - gwybodaeth ansoddol wedi ei dadansoddi fel a ganlyn:
- 30% - asesiad arbenigedd / gwaith tebyg yr ymgymerwyd ag e.
- 30% - datganiad dull sy’n amlinellu’r dull gweithredu.