Rydym ni am benodi partner technegol i weithio gyda ni i ddylunio, adeiladu a datblygu gwefan hygyrch a hawdd ei defnyddio i ddod â'r adnoddau hyn ynghyd mewn un lle.

Mae’r pandemig wedi rhoi sbardun newydd i’n gwaith ym maes y Celfyddydau ac Iechyd, gan roi ymdeimlad o frys a phwrpas wrth gefnogi iechyd meddwl a lles pobl. Mae’r pandemig hefyd wedi amlygu’r heriau sylweddol tu hwnt y mae staff gofal iechyd rheng flaen yn eu hwynebu dros gyfnod hir o amser, a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu hiechyd a’u lles eu hunain.

Wrth ymateb i hyn, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn bwriadu creu cyfres unigryw o adnoddau celfyddydol ar-lein i gefnogi ein gweithlu gofal iechyd. Bydd y wefan (rdym yn ei galw’n ‘Cultural Cwtch’ fel teitl gweithio) yn rhan o’r pecyn ehangach o adnoddau y mae AaGIC (Addysg a Gwella Iechyd Cymru) yn eu datblygu i gefnogi staff gofal iechyd rheng flaen yn ystod pandemig ac yn y cyfnod adfer maes o law.

Gweler y manylion llawn a'r meini prawf i'r tendr drwy fynd i wefan GwerthwchiGymru yma.

Cyllideb

Uchafswm gwerth y cyllideb llawrydd hwn yw £35,000 (gan gynnwys TAW os yw’n berthnasol).

Disgwyliwn y bydd y contract yn para rhwng 30 Mawrth a 30 Medi 2021. 

Bydd rheolwr prosiect profiadol yn cael ei gontractio ar wahân i weithio'n agos gyda ni yng Nghyngor y Celfyddydau a'r partner technegol penodedig i yrru ymlaen a goruchwylio datblygiad a lansiad llwyddiannus cam cyntaf y prosiect.

Dyddiad Cau

Dim ond drwy borth GwerthwchiGymru y gellir cyflwyno ceisiadau am eglurhad a hynny hyd at 18 Mawrth 2021.

Mae'r gwahoddiad hwn wedi'i gyhoeddi gan Cyngor Celfyddydau Cymru.