Mae SPAN Arts yn gweithio gyda'r darlledwr a'r awdur Queer, Damian Kerlin, i guradu digwyddiad ar 29 Mehefin yng Ngorllewin Cymru sy'n archwilio Hunaniaeth, Ffasiwn a Queerness.
Galwad Pobl Creadigol Cwiar
Rydym yn chwilio am Pobl Creadigol Cwiar sydd â chysylltiad â Gorllewin Cymru i fod yn rhan o ddigwyddiad, o helpu i hwyluso gweithdy rhyngweithiol gyda phobl greadigol eraill, i fod yn rhan o sgwrs banel greadigol neu DJ parti dawns.
I ddarganfod sut i gymryd rhan anfonwch e-bost info@span-arts.org.uk a dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun. Beth yw eich stori a beth hoffech chi ei gyfrannu at y sgwrs ynghylch hunaniaeth, ffasiwn a Queerness?
Mae SPAN Arts yn sefydliad dan arweiniad Cwiar ac rydym yn croesawu Queerness yn ei holl ffurfiau. Rydym yn chwilio am gydweithwyr gyda chefndiroedd, rhywiau, hiliau ac oedrannau gwahanol i fod yn rhan o'r digwyddiad.
Ar agor i unrhyw un 18+