Ydych chi'n creu newid? Ydych chi'n feddyliwr creadigol? Allwch chi danio dychymyg pobl ifanc? Os mai 'ydw' yw'r ateb, rydym am glywed gennych chi.
Mae’n bleser gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, gyhoeddi parhad Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Ein nod yw ehangu’r rhwydwaith o ysgolion ledled Cymru a fydd yn cael eu cefnogi i ddyfeisio a chyflwyno prosiectau cydweithredol creadigol sy’n ymwneud â:
-
archwilio hunaniaeth mewn perthynas â thyfu i fyny yn y Gymru gyfoes
-
deall hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas ddiwylliannol amrywiol
-
ennill ymwybyddiaeth o'r bobl, y diwylliannau a'r cymunedau sy'n rhan o'r Gymru gyfoes
-
archwilio profiadau a chyfraniadau pobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol Cymru, ddoe a heddiw
-
gweithio ochr yn ochr ag Arweinwyr Creadigol mewn amgylchedd dysgu i wella ansawdd yr addysgu a'r dysgu
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano
Rydym yn arbennig o awyddus i recriwtio Arweinwyr Creadigol ysbrydoledig o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol i weithio ar y cynnig dysgu creadigol hwn i ysgolion (naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg).
Bydd hwn yn gyfle cyffrous i Arweinwyr o’r celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu’r diwydiannau creadigol ddatblygu eu hymarfer trwy gyfuniad o ddatblygiad proffesiynol sy’n canolbwyntio ar ddulliau creadigol o addysgu a dysgu; a chyflwyno prosiect cydweithredol, creadigol a fydd yn dod â phrofiadau o’r byd go iawn i'r ysgol.
Cefndir
Mae Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol yn tynnu ar gryfderau’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol sydd wedi helpu ysgolion i archwilio syniadau a dulliau newydd o addysgu a dysgu dros y 7 mlynedd diwethaf.
Wrth galon y cynllun mae cyd-adeiladu, cyd-gyflwyno, llais y disgybl ac i ganiatau penderfyniadau gan y disgyblion. Mae’n ddull sy’n seiliedig ar waith ymholiadol sy’n defnyddio ymyriadau celfyddydol ac addysgeg greadigol i archwilio themâu, materion a heriau ar draws pob maes dysgu.
Beth fydd swyddogaeth y rôl?
-
Gan dynnu ar eich sgiliau trefnu, byddwch yn gweithio ar y cyd ag ysgol i gynllunio prosiect dysgu creadigol sy’n archwilio dulliau Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
-
Gan ddefnyddio eich profiad ymarferol o ‘greadigrwydd’, byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon dosbarth i ymchwilio a chyflwyno’r prosiectau hyn.
-
Byddwch yn myfyrio drwy gydol y prosiect ac yn cynhyrchu gwerthusiad terfynol. Bydd cyfleoedd hefyd i chi rannu eich canfyddiadau gyda gweithwyr proffesiynol creadigol ac addysgu eraill ledled Cymru
-
Byddwch yn cyfrannu at newid ar lefel ysgol, cymunedol a chenedlaethol.
Amserlen
2 Medi |
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
8/9/10 Tachwedd |
Cwrs hyfforddi cyntaf i Arweinwyr Creadigol |
15/16/17 Tachwedd |
Ail gwrs hyfforddi i Arweinwyr Creadigol |
Wythnos y 28 Tachwedd |
Arweinwyr Creadigol yn cael eu paru ag ysgolion |
28 Tachwedd – 31 Mawrth |
Cynllunio a gweithredu'r prosiectau |
Wythnos y 24 Ebrill – 5 Mai |
Digwyddiad rhannu cenedlaethol cyntaf |
Tâl a chefnogaeth
Fel ymrwymiad i ddatblygiad Arweinwyr Creadigol, gofynnir i chi fynychu hyfforddiant dysgu creadigol i'ch helpu i baratoi'n llawn ar gyfer y rôl.
Yn dilyn yr hyfforddiant byddwn yn cynnig cyfle i hyd at 20 o Arweinwyr Creadigol gymryd rhan.
Bydd Arweinwyr Creadigol llwyddiannus yn derbyn ffi o £4800 i gwblhau’r gwaith hwn.
Sut i wneud cais
-
Cwblhewch ffurflen ar-lein sydd ar gael yma.
-
Mae manylion y person ar gyfer y rôl hon i'w gweld yn y ffurflen ar-lein
-
Gofynnir i chi lanlwytho CV yn ystod y broses. Sicrhewch nad yw maint y ddogfen hon yn fwy na 25MB. Os byddwch yn mynd dros y swm hwn, yna bydd y ffurflen yn methu pan gaiff ei chyflwyno.
Mae’r ffurflen yn cau am hanner dydd, dydd Gwener 2 Medi 2022.
Sut i ddarganfod mwy
Os oes gennych ddiddordeb, rydym yn awgrymu eich bod yn mynychu un o'n sesiynau briffio ar-lein fel y manylir isod. Bydd hwn yn gyfle i ddarganfod mwy am y cynnig a gofyn unrhyw gwestiynau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch ag un o'r tîm dysgu creadigol fel y nodir isod
Daniel.trivedy@celf.cymru Ffôn: 07710026085 |
Gwenfair.hughes@celf.cymru Ffôn: 01492539754 |
Shaun.featherstone@celf.cymru Ffôn: 07710026080 |
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn print bras, hawdd ei ddarllen, braille, sain a byddwn yn ymdrechu i ddarparu gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw Cymraeg, Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain ar gais.
Rydym yn gweithredu Polisi Recriwtio Cyfle Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned yn Gymraeg neu Saesneg.