Mae Arddangosfa Agored Tŷ Pawb yn gystadleuaeth celf cyflwyniad agored bob dwy flynedd lle gwahoddir artistiaid i gyflwyno hyd at dri darn o waith celf i’w hystyried i’w harddangos yn ein harddangosfa agored. Denodd Cystadleuaeth Agored 2022 dros 4,500 o ymwelwyr.

Mae’r gystadleuaeth yn gyfle i bob Artist proffesiynol ac amatur arddangos eu gwaith ochr yn ochr yn ein horiel arobryn a chael cyfle i ennill un o’r tair gwobr eleni.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sadwrn 31 Awst 2024

Dyddiadau’r arddangosfa: 16 Tachwedd 2024 – 8 Chwefror 2025

Dyddiad cau: 31/08/2024