Wrth inni groesawu’r bennod nesaf yn stori Ffilm Cymru Wales, rydyn ni’n chwilio am unigolyn eithriadol i arwain y Bwrdd a’r uwch dîm i gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer y byd ffilm yng Nghymru.

Rydyn yn chwilio am Gadeirydd sydd â: 

  • profiad, hygrededd a chysylltiadau yn y diwydiant
  • yn gyfarwydd â thirwedd ehangach y cyfryngau yng Nghymru
  • brwdfrydedd a’r pŵer creadigol i gofleidio’r gwaith sydd o’n blaenau
  • y gallu i ddylanwadu ac eirioli i rai sy’n gwneud penderfyniadau a chyllidwyr, gan gefnogi llwyddiant hirdymor Ffilm Cymru Wales
  • ein gwerthoedd cyffredin a’n hangerdd i hybu sector ffilm dwyieithog ffyniannus yng Nghymru.  

Y Rôl

  • Rôl: Cadeirydd 
  • Lleoliad: Caerdydd/Hyblyg 
  • Sector: Ffilm
  • Ymrwymiad Amser: 6-8 cyfarfod Bwrdd y flwyddyn yn ogystal â chyfarfodydd a digwyddiadau ad hoc ar ran Ffilm Cymru Wales. 
  • Cyflog: Di-dâl, ond caiff treuliau wrth gyflawni dyletswyddau eu had-dalu. Mae cydnabyddiaeth hefyd ar gael i Gyfarwyddwyr Bwrdd na fydden nhw fel arall yn gallu ymgymryd â’r mathau hyn o rolau.
  • Hyd y Tymor: 3 blynedd (uchafswm o ddau dymor, yn amodol ar gytundeb) 
  • Dyddiad Cychwyn: Tymor yr hydref 2024 

PECYN SWYDD CADEIRYDD

Sut i wneud cais 
Oni bai ein bod wedi cytuno i chi ddefnyddio fformat gwahanol i gyflwyno cais, dylech anfon CV a llythyr eglurhaol i Hayley Lau - Hayley@ffilmcymruwales.com - yn nodi eich profiad a'ch sgiliau yn erbyn yr hyn sydd wedi’i amlinellu ym manyleb y person isod. 

Cewch gyflwyno cais yn Gymraeg neu Saesneg.

Cyflwynwch eich cais erbyn 16:00 ar 2 Gorffennaf 2024.

Nid yw Ffilm Cymru Wales yn noddwr trwyddedig ar gyfer VISAs ac felly mae’n rhaid bod eisoes gennych Hawl i Weithio yn y DU er mwyn gwneud cais am y rôl hon. 

Cymorth Mynediad
Credwn mewn sector sy’n gweithio i bawb ac rydyn ni’n angerddol am ehangu mynediad i'r sector sgrin.

Byddwn yn cynnig sicrwydd o gyfweliad i bob ymgeisydd sy'n bodloni ein meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl ac sy'n arddel hunaniaeth Pobl y Mwyafrif Byd-eang, Pobl Dduon, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol, neu bobl F/byddar, trwm eu clyw, Anabl neu niwroamrywiol.   

Yn achos ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl, yn niwroamrywiol, a phobl sydd wedi colli eu golwg, mae cymorth ar gael i gyflwyno cais. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut y gallwn helpu. Er enghraifft, gallwn dalu costau dehonglydd BSL ar gyfer cyfarfod â ni cyn gwneud cais, cymorth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig, neu gytuno ar fformatau gwahanol ar gyfer gwneud cais fel ceisiadau fideo neu ddec sleidiau. Cawn ein harwain gennych chi. 

Cysylltwch â Hayley Lau ar Hayley@ffilmcymruwales.com i drafod eich gofynion cyn gwneud cais. 

Dyddiad cau: 02/07/2024